Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Newydd

Published: 07/05/2019

8259.jpg

 O'r chwith i'r dde: Cyng Hadyn Bateman, Cyng Marion Bateman, Cyng Joe Johnson, Cyng Sue Johnson

 

Ar ddydd Mawrth, 7 Mai, penodwyd y Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae'r Cynghorydd Bateman yn cynrychioli adran etholiadol Llaneurgain ac mae wedi bod yn aelod o'r Cyngor ers mis Tachwedd.

Bu'r Cynghorydd Bateman hefyd yn Aelod Sychdyn o Gynghorydd Cymuned Llaneurgain ers blynyddoedd lawer ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor yn y gorffennol.  Mae hefyd yn Lywodraethwr Ysgol Sychdyn ac yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae'r Cynghorydd Bateman yn briod â Haydn ac mae ganddi un mab a dau wyrion hyfryd. Y Cynghorydd Haydn Batman fydd y Cynghorydd Marion Bateman.

Dywedodd y Cynghorydd Bateman:

“Rwyf yn falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn i ddod. Braint yw cael cynrychioli Sir mor ardderchog â’r un rydym yn byw ynddi. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint â balchder.”

Penodwyd y Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae'r Cynghorydd Johnson yn cynrychioli adran etholiadol Dwyrain Treffynnon ac mae wedi bod yn aelod o'r Cyngor ers mis Mai 2012.

Mae'r Cynghorydd Johnson hefyd wedi bod yn Aelod o Gyngor Tref Treffynnon ers blynyddoedd lawer ac mae wedi bod yn Faer Treffynnon dair gwaith.

Mae'r Cynghorydd Johnson wedi helpu i drefnu a chyflwyno nifer o ddigwyddiadau yn Nhreffynnon, gan gynnwys Gwyl Gerdd y Well Inn a'r Wyl Gerdd Dawnsio Llinell.

Mae'r Cynghorydd Johnson wedi bod yn briod â Sue sydd hefyd yn Gynghorydd Tref Treffynnon am dros 40 mlynedd. Mae ganddo ddwy ferch sydd â gyrfaoedd a busnesau llwyddiannus. Mae gan y Cynghorydd Johnson bedwar wyrion gwych.

Y Cynghorydd Sue Johnson fydd Consort y Cynghorydd Joe Johnson.