Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Toiledau Lleol

Published: 14/05/2019

Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Sir y Fflint yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mai.

Mae’n ddyletswydd i baratoi Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru 2017), ond nid yw’r Ddeddf yn gorfodi cynghorau i ddarparu toiledau cyhoeddus a’u cynnal a’u cadw yn uniongyrchol, ac nid yw’n ofynnol iddynt ddarparu cyfleusterau pwrpasol ychwanegol chwaith. Serch hynny, mae’r Strategaeth yn rhoi sylw i sut y gellir darparu cyfleusterau a chael mynediad atynt, gan ystyried pethau fel lleoliad, hygyrchedd, cyfleusterau, amlder defnydd ac ansawdd safleoedd presennol.

Ers 2012, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal dau adolygiad ar wahân o ddarpariaeth toiledau ledled y Sir, ac wedi canfod fod toiledau anghysbell yn aml yn fannau gwael o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bod pobl ag ofn eu defnyddio oherwydd hynny. O ganlyniad i hynny, mae’r Cyngor ers sawl blwyddyn bellach wedi mabwysiadu dull mwy galluogol drwy hyrwyddo’r defnydd o doiledau presennol yn adeiladau'r Cyngor fel llyfrgelloedd a Chanolfannau Cysylltu, lle mae pobl yn teimlo’n fwy hyderus a chyfforddus yn eu defnyddio.

Yn y strategaeth arfaethedig mae Cynllun Gweithredu sy’n cynnwys:

  • darpariaeth amgen yn fewnol (Canolfannau Cysylltu, llyfrgelloedd)
  • meithrin cyswllt â Chynghorau Tref a Chymuned i ddarparu toiledau
  • gofyn i fusnesau lleol ddarparu toiledau
  • toiledau penodol y mae’r Cyngor yn eu rheoli.

Mae’r Cynllun Gweithredu hefyd yn gofyn i swyddogion i bledio’r achos dros yr angen i newid polisi cynllunio a’r ddeddfwriaeth bresennol o ran darparu toiledau, fel y gellid gosod amodau cynllunio i gynnwys toiledau mewn datblygiadau.

Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, yr Aelod Cabinet dros Strydwedd a Chefn Gwlad,

“Wrth lunio’r strategaeth fe holodd y Cyngor farn amrywiaeth helaeth o randdeiliaid, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth o anghenion pobl a chymunedau ledled Sir y Fflint. “Fe gynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynghylch y Strategaeth Toiledau Lleol rhwng 4 Chwefror a 26 Ebrill eleni, a chafwyd 195 o ymatebion.

“Dyma strategaeth arall y bu’n rhaid i’r Cyngor ei chynhyrchu mewn adeg o gyni ariannol a thoriadau, a hynny heb unrhyw gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth i wella’r cyfleusterau presennol neu ddarparu rhai newydd, i fodloni ceisiadau rhesymol y preswylwyr yn ystod yr ymgynghoriad.”