Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Maethu Cyntaf yng Nghymru i Fabwysiadu Model Cefnogaeth gan Gynghreiriaid

Published: 10/05/2019

Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint fydd y gwasanaeth maethu cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu rhaglen arloesol Mockingbird gan y Rhwydwaith Maethu. 

Mae’r rhaglen yn cael ei mabwysiadu yng nghanol ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y DU - Pythefnos Gofal Maeth - a bydd yr awdurdod lleol yn ymuno â 26 gwasanaeth maethu arall o amgylch y DU yn defnyddio’r rhaglen cefnogaeth gan gymheiriaid. 

Mae’r rhaglen Mockingbird yn cyflwyno’r Model Teulu Mockingbird sydd yn ddull o ofal maeth sy’n defnyddio model teulu estynedig sydd yn darparu arhosiad dros nos a seibiannau byr, cefnogaeth gan gymheiriaid, cydgynllunio rheolaidd, gweithgareddau hyfforddi a chymdeithasol i gefnogi plant mewn gofal yn ogystal â theuluoedd maethu. Mae’r rhaglen Mockingbird eisoes wedi’i sefydlu yn Lloegr, ac mae wedi darparu buddion megis osgoi costau i wasanaethu maethu, gwell cefnogaeth i ofalwyr maeth a rhagor o sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc sy'n cael eu maethu. 

Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Sir y Fflint wrth ein bodd mai ni yw’r gwasanaeth maethu cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r dull yma o gefnogi ein gofalwyr maeth a phlant sy’n derbyn gofal. 

“Gall dod yn ofalwr maeth fod yn frawychus. Mae’r model Mockingbird yn dod â grwp o ofalwyr maeth sydd yn byw gerllaw ynghyd i ddarparu cyngor a chymorth ar alw. Bydd yn darparu cefnogaeth i’r rhai sydd eisoes yn gofalu ac i ofalwyr newydd.”

Fe ymatebodd gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn gadarnhaol i’r newyddion mewn ymgynghoriad ac arolwg diweddar, pan gytunodd y mwyafrif bod rhaglen Mockingbird yn syniad da ac y byddai’n helpu gofalwyr maeth. Dywedodd gofalwyr maeth y byddai mabwysiadu’r Model Mockingbird yn ‘syniad da’ a’i fod yn ‘gysyniad gwych’. Canmolodd gofalwr maeth arall y gwasanaeth maethu yn Sir y Fflint am fod yn ‘flaengar’.

Mae’r rhaglen Mockingbird hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r materion a nodwyd yn ddiweddar yn arolwg Bright Spots o blant sy’n derbyn gofal yn Sir y Fflint, pan ddywedodd pobl ifanc eu bod eisiau seibiant gyda’r un gofalwyr, ac nad ydynt eisiau i oedolion dynnu sylw at y ffaith eu bod mewn gofal a’u trin yn wahanol. Hefyd, maent eisiau mwy o amser gyda’u brodyr a chwiorydd os nad oes modd iddynt fyw gyda nhw. 

Dywedodd grwp Young Voices Out Loud Sir y Fflint sydd yn cynrychioli plant a phobl ifanc mewn gofal maeth 

“Rydym ni’n meddwl ei fod yn syniad da iawn. Gall pobl ifanc sydd yn newydd i’r system gofal wneud ffrindiau a chymdeithasu gyda mwy o bobl yn yr un amgylchedd. Os bydd y prif ofalwr yno, rydych chi’n eu hadnabod ac maen nhw’n gwybod beth rydych chi’n ei hoffi. Dydych chi ddim yn gwybod pwy sydd yn ofalwr seibiant weithiau. Fe fydd yn lle diogel i fynd. Rydym eisiau Mockingbird i ddigwydd yng Nghymru.”

Dywedodd Colin Turner, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: 

“Mae’n bleser gennym roi rhaglen Mockingbird ar waith yng Nghymru sy’n cael ei ariannu trwy raglen ‘Arloesi i Arbed’ gan Lywodraeth Cymru.  Edrychwn ymlaen at weld yr effaith cadarnhaol y bydd Mockingbird yn ei gael ar bawb sydd yn ymwneud â’r rhaglen yn Sir y Fflint.”

Llwyddiannau Mockingbird

Dywedodd rheolwr rhaglen Mockingbird ar gyfer Y Rhwydwaith Maethu, Lily Stevens: 

“Rydym wrth ein boddau gyda’r effaith y mae rhaglen Mockingbird wedi’i gael ar y gwasanaethau maethu, gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc sydd yn ymwneud â’r rhaglen. Un o fanteision sylweddol y rhaglen yw ei fod wedi cefnogi gofalwyr maeth a’r bobl ifanc maent yn gofalu amdanynt i feithrin perthnasau cryfach sy’n golygu bod llai o blant a phobl ifanc sydd yn rhan o’r rhaglen yn gorfod symud rhwng teuluoedd maeth. Mae’r sefydlogrwydd yma’n galluogi i blant a phobl ifanc ffynnu.”

Pythefnos Gofal Maeth 2019

Mae Pythefnos Gofal Maeth, rhwng 13 a 26 Mai, yn cael ei ddylunio a'i gyflwyno gan elusen maethu fwyaf y DU - Y Rhwydwaith Maethu - a'r nod yw codi proffil maethu a recriwtio mwy o ofalwyr maeth. Mae thema eleni #NewidDyfodol yn pwysleisio sut mae maethu yn newid dyfodol plant mewn gofal, yn ogystal â dyfodol y teuluoedd sydd yn gofalu amdanynt.  Cefnogwch yr ymgyrch a dysgwch fwy am faeth yn www.couldyoufoster.or.uk 

I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth ar gyfer Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint, gallwch fynychu noson wybodaeth ar:

Dydd Llun 13 Mai, Lleng Brydeinig Frenhinol Penymynydd a Phenyffordd, 7pm

Dydd Llun 20 Mai, Lleng Brydeinig Frenhinol Penymynydd a Phenyffordd, 7pm