Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith adfer i fynwent hynaf Sir y Fflint

Published: 16/05/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn brysur dros yr hydref a'r gaeaf yn adfer a gwella’r fynwent ar Northop Road yn y Fflint, y fynwent hynaf yn y sir sy’n dyddio’n ôl i 1856.

Mae grwp o drigolion lleol yn awyddus i barhau â’r gwaith ac wedi sefydlu "Grwp Cyfeillion”.  

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Roedd y fynwent wedi cael ei gadael ac yn gordyfu, felly, penderfynom ymgymryd â rhaglen o waith a oedd yn cynnwys torri coed, torri gwrychoedd, adfer rhai o’r cofebau a gosod ffensiau newydd. Mae’r adborth yr ydym wedi’i dderbyn wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt, ac rydym wrth ein boddau bod un o'r trigolion, Peter Metcalfe wedi cynnig sefydlu “Grwp Cyfeillion".  Rydym wedi rhoi gymaint o gefnogaeth â phosibl i'r grwp, ac wedi darparu cyfres o adnoddau ar eu cyfer."

Meddai Mr Metcalfe:

“Yn dilyn llawer o waith ymchwil hanesyddol i’r fynwent, roeddwn eisiau parhau â’r gwaith y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i ddechrau, felly ffurfiais y Grwp Cyfeillion ac rwyf yn Gadeirydd ar y grwp. Mae gennym tua dwsin o aelodau ar hyn o bryd, ac rydym eisoes wedi cynnal sawl cyfarfod. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ragor o bobl gymryd rhan.  

“Rydym yn gobeithio codi arian a nawdd er mwyn talu am y cynllun gwaith sydd gennym ni ar y gweill.”

Bydd y Grwp yn ymgymryd â’n diwrnod cyntaf o waith yn y fynwent ddydd Sadwrn yma, 18 Mai am 10:30am.  Bydd Cynrychiolwyr o Wylwyr y Glannau Sir y Fflint yn bresennol i’n helpu ni, ac mae’r grwp yn estyn gwahoddiad i unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw i ymuno â ni. 

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Peter Metcalfe ar northoproadcemetery@gmail.com neu 07469 732150.  

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu grwp tebyg ar gyfer eich mynwent leol, cysylltwch â Richard Blake, Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth ar 01352 703360 neu richard.blake@flintshire.gov.uk

Cyn lluniau 
Ar ôl lluniau

  

Northop Rd 2 - Before.JPG          

        

Northop Rd 2 - After.JPG

Northop Rd 7 - Before.JPG

 

Northop Rd 7 - After.JPG
Northop Rd 8 - Before.JPG Northop Rd 8 - After.JPG