Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi Cyflogadwyedd

Published: 02/07/2019

Cymerodd Cyngor Sir y Fflint ran yn y pedwerydd Diwrnod Cyflogadwyedd blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 28 Mehefin.  

Dyma ddathliad mwyaf y DU ar gyfer sefydliadau sy’n helpu pobl leol i gael gwaith.  

Aeth Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, sef y tîm sy’n rhedeg rhaglen Gyflogadwyedd Cyngor Sir y Fflint, ar y ffordd er mwyn cyrraedd pobl Sir y Fflint.   Gan gychwyn yn swyddfeydd Ty Dewi Sant yn Ewlo, dathlodd y tîm lwyddiant a chynnydd unigolion oedd naill ai ar y daith neu oedd wedi llwyddo i gael gwaith ar ôl cael cymorth gan y rhaglen.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae gan Sir y Fflint hanes blaenorol cadarn o helpu pobl leol i gael gwaith.  Mae’r tîm wedi gwneud gwaith gwych o un flwyddyn i'r llall, ac mae ganddynt frwdfrydedd ac ymroddiad heb ei ail.  Maen nhw’n cynnal cyrsiau hyfforddi, ffeiriau swyddi a chlybiau menter, yn ogystal â chynnig sesiynau mentora un i un.  Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol er mwyn eu galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd am waith yn yr ardal.  Rwy’n falch iawn fod hyn yn cael ei ddathlu heddiw a boed iddo barhau ymhell i'r dyfodol."

Yn bresennol roedd:

David Wilbraham a gafodd gymorth gan y rhaglen i ennill prentisiaeth yn Theatr Clwyd, lle mae’n dal i weithio 2 flynedd yn ddiweddarach.   

Harry Shone, sydd wedi bod yn gweithio gyda mentor ieuenctid Cymunedau am Waith, Daniel Wade, i ennill ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, gan sicrhau swydd o fewn y diwydiant Diogelwch.  

Gavin Eastham, sylfaenydd Cobra Life Martial Arts Academy, aelod llwyddiannus o’r Clwb Menter Fusnes sydd wedi elwa ar gymorth parhaus y tîm Cymunedau am Waith. 

Aeth y sioe deithiol ymlaen i amrywiol leoliadau ledled Sir y Fflint, gan gynnwys ASDA Queensferry, Parc Brychdyn a Tesco yn Yr Wyddgrug.  Roedd swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar ddod o hyd i waith ac i gofrestru pobl ar y diwrnod. 

Mae gan Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy dîm ymroddedig sydd ar gael ledled Sir y Fflint i ddarparu sesiynau mentora un i un ac i gynnig cymorth i’ch helpu chi i ganfod gwaith, addysg neu hyfforddiant.  Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ffoniwch 01352 704430 neu galwch draw i’n swyddfeydd ni yng Nghanolfan “The Place for You”, Rowley’s Drive, Shotton. 

Employability Day 03.jpg            Employability Day 05.jpg