Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penwythnos Ail Ryfel Byd Talacre

Published: 17/07/2019

Dewch i weld sut oedd Talacre yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i’r pentref yng Ngogledd Cymru fynd yn ôl mewn amser i ailymweld â threftadaeth adeg y rhyfel ac archwilio pam oedd yn chwarae rôl mor bwysig yn yr ymateb milwrol.   

Ar 27 a 28 Gorffennaf bydd Talacre yn cynnal amryw o arddangosfeydd o gerbydau milwrol ac ailberfformwyr, i arteffactau, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu cyfan, pob un yn helpu i greu'r teimlad o Dalacre yn y 1930au a'r 40au.

Roedd Talacre yn lle hollol wahanol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda nifer o faciwîs yn dianc rhag bomiau Lerpwl i aros mewn cytiau syml a adeiladwyd yn y twyni neu hyd yn oed bysus neu hen gerbydau rheilffordd.  Gwelwyd a chlywyd y rhyfel o’r awyr uwch eu pennau, gydag ymladd a golygfeydd o fomiau yn disgyn ar Lerpwl dros y dwr. Roedd y twyni ac ardaloedd y traeth yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant Spitfire, ac mae gweddillion caerau tanddaearol a rhesi o byst llarwydd, wedi’u gosod yn wreiddiol i atal ymosodiad gan yr elyn, i’w gweld hyd heddiw.

Er mwyn ail-fyw ysbryd unigryw’r lle, bydd Canolfan Gymunedol Talacre yn llawn arddangosfeydd ac arteffactau, yn amrywio o gaban faciwî wedi’i ail-greu i Sedd Peilot Spitfire dilys. Gallwch ddefnyddio clustffonau rhith-wirionedd i gael y teimlad o Frwydr Prydain.  Bydd y ffilm CGI newydd (delwedd a grëwyd ar gyfrifiadur) yn eich helpu i ddychmygu'r hyfforddiant Spitfire uwchben a gallwch weld y ffilm wedi’i chynhyrchu gyda disgyblion o Ysgol Gronant, yn dangos sut oedd bywyd i blant yn byw yn nryswch Talacre yn ystod y rhyfel. 

Yn yr awyr agored yr uchafbwynt yw atgynhyrchiad o awyren eiconig yr Ail Ryfel Byd Spitfire a Pheiriant Meteor Myrddin. Bydd Gwarchodlu Cartref Swydd Gaer wedi’i leoli ger maes parcio'r traeth, ynghyd â blwch amddiffyn maint llawn.  Bydd yna hefyd gaer ARP a nifer o gerbydau milwrol yn cael eu harddangos.   Bydd yna gyfle i ymuno â’r cloddio archeolegol o amgylch safle rhai o’r hen gabannau hefyd. 

Gallwch ddarganfod hanes Ail Ryfel Byd y twyni a’r traeth drwy gasglu taflen neu lawrlwytho’r ap llwybr digidol newydd.   

Mae yna ddigon i’r teulu cyfan, gwisgo dillad o’r cyfnod, chwarae gemau traddodiadol, neu ymuno ag ymarfer dril gyda ‘Rhingyll Baglin’ ac ymgymryd â’i hyfforddiant ar gyfer darpar beilotiaid!  

Mae yna gerddoriaeth hefyd gyda chanwr a sacsaffonydd yn perfformio caneuon yr Ail Ryfel Byd yn y Point Bar yn ystod y penwythnos a’r Rhingyll Baglin a’i deulu yn canu caneuon poblogaidd o’r cyfnod ar fore Sadwrn yn y Ganolfan Gymunedol. 

Beth am ddod mewn gwisg cyfnod i ychwanegu at yr awyrgylch?

Mae’r digwyddiad hwn yn uchafbwynt prosiect ‘Talacre Ddoe a Heddiw’, a gaiff ei arwain gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru a Cadwyn Clwyd. Bydd yn cael ei gynnal rhwng 10am-4pm bob dydd.

I gael mwy o wybodaeth am y penwythnos chwiliwch am 'Benwythnos yr Ail Ryfel Byd' ar Facebook.