Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau Sir y Fflint yn ymateb yn dda ir cynllun i drosglwyddo asedau lleol

Published: 17/12/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ymateb da gan gymunedau lleol i’r cynllun trosglwyddo asedau cymunedol. Ail-lansiwyd y cynllun ddechrau mis Tachwedd. Mae ugain cynnig yn ymwneud â dros 40 o asedau wedi’u cytuno eisoes ac wedi symud ymlaen i’r cam nesaf, yn dilyn y dyddiad cau cyntaf ar gyfer mynegi diddordeb. Y cam nesaf fydd cynhyrchu achos busnes ac mae disgwyl i hyn gymryd tua chwe mis. Mae’r asedau’n cynnwys caeau chwarae, meysydd chwarae, canolfannau cymuned, canolfannau ieuenctid, rhagdiroedd, safleoedd chwaraeon, pafiliynau a llyfrgelloedd, ac mae Cynghorau Tref a Chymuned, cyrff cymunedol ac unigolion wedi mynegi diddordeb. Yn ogystal â’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb ffurfiol, cafwyd 47 o ymholiadau anffurfiol, yn ymwneud â 195 o asedau mewn 21 o ardaloedd Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Cafwyd ymateb da iawn gan ein cymunedau. Mae’n dangos y gallwn, hyd yn oed yn wyneb y sefyllfa ariannol anodd hwn, gydweithio â chymunedau lleol i ddatrys problemau’n ymwneud â chynnal gwasanaethau ac asedau lleol yn y dyfodol.”   Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd, a’r deiliad portffolio ar gyfer y cynllun: “Rydym yn falch iawn o ymateb ein cymunedau lleol. Byddwn yn awr yn gweithio gyda’r cyrff hyn i’w helpu nhw i ddatblygu eu hachosion busnes. Rydym wastad wedi bod yn glir nad yw penderfyniad i fynegi diddordeb cychwynnol yn ymrwymo neb i’r broses o  drosglwyddo asedau ond mae’n awr yn caniatáu i ni  gynnal trafodaeth fanylach a rhoi’r cymorth priodol i’r ymgeiswyr. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys y dogfennau a’r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r ased yn ogystal â chymorth cyfreithiol, ariannol a chymorth cynllunio busnes a gaiff ei drefnu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. (FLVC). Dywedodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC: “Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor ers lansio’r cynllun ac rydym yn awr yn barod i ddarparu pecyn cymorth penodol i gyrff, drwy gyfrwng ein tîm, a drwy eu cyfeirio at gyrff arbenigol sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni. Mae gan bob cyngor tref a chymuned restrau o asedau cymunedol yn eu hardal leol y bydd, oherwydd y sefyllfa ariannol anodd, yn anodd eu cynnal yn y tymor hir. Anogir cyrff sy’n dymuno mynegi diddordeb i gysylltu â ni, oherwydd caiff y cynigion eu hystyried bob mis. Bydd paneli’n cyfarfod bob tri mis i ystyried cynigion ar gyfer achos busnes.  I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Ian Bancroft neu Neal Cockerton ar 01352 704511.