Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cynghorydd Stella Jones

Published: 28/01/2015

Mae teyrngedau twymgalon wedi’u talu i’r Cynghorydd Stella Jones sydd wedi marw. Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: Roeddwn yn eithriadol o drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Stella Jones. Roedd Stella’n wraig hyfryd ac yn was cyhoeddus ymroddedig. Roedd parch mawr tuag ati hi yn y Cyngor Sir ac yng nghymuned Caergwrle sef y gymuned y bu’n gweithio mor ddiflino drosti. Mae’r Sir wedi colli Cynghorydd a wnaeth wahaniaeth anferth i gymaint o fywydau, a byddwn i gyd yn gweld colled fawr ar ei hôl. Meddai Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Glenys Diskin: “Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed y newyddion a mae fy meddyliau gyda theulu Stella ac rwy’n cydymdeimlo â nhw’n fawr. Roedd gennyf feddwl mawr o Stella ac roedd yn gynghorydd diwyd dros ben. Fel swyddog ac, ar ôl hynny, fel llywodraethwr ysgol a Chynghorydd Sir, roedd yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth go iawn i faterion addysgol. Byddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu unrhyw un a bydd pawb yn gweld ei heisiau.” Etholwyd y Cynghorydd Jones am y tro cyntaf i Gyngor Sir y Fflint ym mis Mai 2004. Roedd yn Is-gadeirydd y Fforwm Cynhwysiant Cymdeithasol rhwng Mai 2004 a Mai 2008. Bu’n aelod o Gyngor Cymuned yr Hôb ers 2000 ac roedd yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hôb, ac Ysgol Gynradd Abermorddu. Cyn dod yn gynghorydd sir, gweithiodd ym myd addysg yn y Sir.