Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Siâp ar Shakespeare

Published: 23/02/2015

Mi fydd penillion a sonedau Shakespeare yn adleisio o amgylch ysgolion cynradd Sir y Fflint fel rhan o fis ‘Rhoi Siâp ar Shakespeare’ y mis Mawrth hwn. Mi fydd disgyblion yn gweithio ochr yn ochr â’r ysgrifennwr llwyfan a chyfarwyddwr proffesiynol Janys Chambers, dawnsiwr/coreograffydd proffesiynol, artist gweledol proffesiynol a chyfarwyddwr ymladd proffesiynol fydd yn cyflwyno ac archwilio stori anhygoel Macbeth. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae Rhoi Siâp ar Shakespeare yn gyfle gwych i ysgolion Sir y Fflint weithio ag artistiaid proffesiynol ac i gyfoethogi’r cwricwlwm â chreadigrwydd, fydd yn ymgysylltu plant â’u dysgu. Mi fydd modd i aelodau’r gymuned gymryd rhan hefyd drwy gyfres o weithdai hwyl ar draws y sir, âr bwriad o ddatguddio Shakespeare, ac wedi’u harwain gan yr ysgrifennwr a chyfarwyddwr proffesiynol Janys Chambers, sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr BAFTA.” Mi fydd y gweithdai cymunedol yn cyffwrdd â dirgelwch rhyfeddol bywyd Shakespeare a sut le oedd theatrau oes Elisabeth. Mi fydd y grwp yn darllen ac archwilio golygfeydd dethol, gan edrych ar straeon, ystyr geiriau, themâu a delweddau, cymeriad, a beth yn union yw’r mesur moel. Caiff golygfeydd eu hactio ac fe gaiff darlleniad ei ymarfer a’i gynnal ar ddiwedd y dydd. Mae’r gweithdy i bawb dros 16 oed sydd eisiau dysgu ychydig mwy am Shakespeare. Caiff y rhain eu cynnal yn: Llyfrgell Treffynnon (01352 713157) – Dydd Llun 30 Mawrth Llyfrgell Brychdyn (01244 533727) – Dydd Mawrth 31 Mawrth Llyfrgell y Fflint (01352 703737) – Dydd Mercher 1 Ebrill Llyfrgell yr Wyddgrug (01352 754791) – Dydd Iau 2 Ebrill Mae pob gweithdy’n costio £5; i archebu lle cysylltwch â’r llyfrgell yn uniongyrchol. Mae ‘Rhoi Siâp ar Shakespeare’ wedi ei gydlynu gan Adain Y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint. Nodyn y golygydd: Cysylltwch ag ysgolion/llyfrgelloedd unigol am gyfle i gael tynnu llun. Caiff gweithdai eu cynnal am 9.30am tan 3pm mewn ysgolion, 10am tan 4pm mewn Llyfrgelloedd. Mae’r sesiynau mewn ysgolion wedi’u rhestru isod: Ysgol Bryn Pennant, Mostyn, CH8 9NU: Dydd Llun 23 Mawrth Ysgol Gronant, LL18 9YP: Dydd Mawrth 24 Mawrth Ysgol Gwynedd, y Ffllint, CH6 5NF: Dydd Mercher 25 Mawrth Ysgol Estyn, Hôb, LL12 9NL: Dydd Iau 26 Mawrth Ysgol Bryn Deva, Cei Connah, CH5 4SN: Dydd Gwener 27 Mawrth.