Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidiwch â chollich hawl i bleidleisio a dweud eich dweud ar ddiwrnod yr Etholiad Gyffredinol ar 7 Mai

Published: 20/04/2015

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hatgoffa fod ganddynt tan 5pm ddydd Llun 20 Ebrill i gofrestru i bleidleisio a tan 5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwyr post. Fel arall, mae gan drigolion tan ddydd Mawrth 28 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Meddai Colin Everett, Swyddog Canlyniadau Dros Dro yng Nghyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi anfon cardiau pleidleisio at etholwyr yn ddiweddar. Os nad ydych wedi derbyn cerdyn pleidleisio cysylltwch â’n Swyddfa Etholiadau ar 01352 702412 neu anfonwch e-bost at: vote2015@flintshire.gov.uk i wirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio neu cofrestrwch i bleidleisio nawr ar www.gov.uk/register-to-vote - nid yw’n cymryd mwy nag ychydig funudau i sicrhau’ch bod yn cael cyfle i ddweud eich dweud ar 7 Mai.”