Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwybodaeth dementia newydd ar-lein ar gael

Published: 10/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ychwanegu gwybodaeth newydd i'w gwefan ar gyfer y rhai sy'n byw gyda dementia a’u gofalwyr. 

Mae’r wybodaeth yn cynnwys lleoliadau cyfeillgar i ddementia, gwasanaethau cefnogi, diogelwch, hamdden ac adloniant, cefnogaeth i ofalwyr, cludiant, gwastraff ac ailgylchu a thai.

Mae’r wybodaeth hon yn ganlyniad i adborth gan bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr sydd wedi ei chael yn anodd i ganfod pa gefnogaeth all fod ar gael iddynt yn Sir y Fflint. 

Y gobaith yw y bydd hyn yn dod ag amrediad o wybodaeth ynghyd mewn un lle, gan weithredu fel cyfeiriadur o wasanaethau cefnogi. Bydd pobl sy’n byw gyda dementia a'u gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill yn gallu mynd i dudalennau'r Cyngor ar y we i gael gwybodaeth ddefnyddiol, yn hytrach na threulio amser yn chwilio drwy wefannau asiantaethau partner ac adrannau'r Cyngor. Bydd y tudalennau’n parhau i gael eu diweddaru wrth i ni ddysgu mwy am gefnogaeth leol.   

Dywedodd Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer’s: 

“Dyma fenter wych sy’n cyd-fynd gyda'n cenhadaeth i greu cymunedau sy’n fwy cyfeillgar i ddementia.

“Bydd dod â gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle yn sicr yn gwneud bywyd yn haws i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr, felly mae’n wych gweld y cyngor yn ystyried yr hyn mae pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia wedi ei ddweud.

“Rydym ni eisiau i bobl sy'n byw gyda dementia deimlo fel pe baent yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi a theimlo'n hyderus y gallant gyfrannu at fywyd cymunedol. 

“Rydym yn gweithio’n galed i greu newid ac felly mae'n hynod galonogol i weld sefydliadau eraill yn uno gyda ni yn erbyn dementia. 

“Mae yna 850,000 o bobl yn y DU yn byw gyda dementia, ac mae bron i 2,000 ohonynt yn Sir y Fflint, ac mae’n hynod bwysig eu cefnogi ymhob ffordd y gallwn ni.”

Dywedodd Jim Ibell, Llysgennad ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer’s ac un o breswylwyr Sir y Fflint sy'n byw gyda dementia: “Alla i wir ddim diolch digon i Gyngor Sir y Fflint am weithredu mor gyflym. Dim ond ym mis Gorffennaf wnes i grybwyll rhoi rhywbeth ynghyd, lle mae'r holl wybodaeth berthnasol i gefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia mewn un lle ac mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys hynny ar eu gwefan yn syth, sy'n wych.

“Rwyf wedi bod yn sôn am geisio gwneud hyn ers misoedd mewn gwahanol gyfarfodydd yr wyf wedi bod iddynt ar draws Gogledd Cymru ac o’r diwedd gweithredwyd ar hyn.  Bydd hyn yn gymorth mawr i bobl sy'n byw gyda dementia, rwy'n credu mai dyma'r unig ddogfen sy'n cynnwys nifer o bethau y mae angen i ni eu gwybod i gyd gyda'i gilydd. Hefyd mae’n wych i weld Cyngor Sir y Fflint yn symud tuag at ddod yn sefydliad cyfeillgar i ddementia. Bydd hyn yn helpu’r holl bobl yn Sir y Fflint sy'n byw gyda dementia."

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei gydnabod fel sefydliad sy’n ‘Gweithio Tuag at Ddod yn Gyfeillgar i Ddementia’ drwy Raglen Cymunedau Cyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer's.

Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau Cyfeillgar i Ddementia y Gymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu'r cyfrifoldeb o sicrhau fod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a theimlo eu bod yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion y rhai sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae dementia yn flaenoriaeth mewn sawl cynllun corfforaethol. Rwy’n falch o ymrwymiad staff Cyngor Sir y Fflint a’u sefydliadau partner sydd yn parhau i weithio’n galed i sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl gyda dementia a’u gofalwyr.   

Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o ddementia ymhellach ar draws y sir drwy:

• gynyddu nifer y cymunedau cyfeillgar i ddementia yn Sir y Fflint; a

• gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned. 

Dyma’r ddolen ar gyfer y wybodaeth siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Dementia.aspx.