Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Sir y Fflint

Published: 19/09/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn croesawu adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn o’r gwasanaethau addysg, pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. 

Cyflawnodd Estyn arolygiad llawn o’n gwasanaethau addysg ac ieuenctid yn gynharach yr haf hwn.

Darganfu Estyn, ar y cyfan, bod disgyblion yn ein hysgolion lleol, gan gynnwys y rhai â hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai gydag anghenion addysgol arbennig, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser mewn addysg statudol. Mae Estyn yn nodi bod addysg gynradd yn y sir yn arbennig o gryf gyda’r gyfran o ysgolion cynradd sy’n cyflawni dyfarniadau ardderchog am safonau, yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Mae perfformiad grwpiau o ddisgyblion diamddiffyn wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf gyda’r nifer o'r rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith yn parhau'n isel.

Un maes nodedig o berfformiad uchel yw gwaith ymyrraeth gynnar i gefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Mae hyn wedi cael ei amlygu fel arfer sy’n arwain y sector. 

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu bod lles mwyafrif y disgyblion yn dda ar draws holl gyfnodau addysg ac yn nodi bod gennym strategaethau i wella iechyd meddyliol ac emosiynol disgyblion yn yr ysgolion a thrwy ddarpariaeth ieuenctid integredig. Mae Estyn yn cadarnhau bod gan blant a phobl ifanc gyfleoedd cadarnhaol i gyfrannu tuag at benderfyniadau ar faterion sy’n ei heffeithio nhw. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer darparu addysg. Mae'r weledigaeth yn cael ei adlewyrchu mewn strategaethau corfforaethol ac yn cael ei gyfathrebu’n dda.

Mae’r berthynas gweithio effeithio rhyngom ni a’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion (GwE) wedi’i amlygu fel cryfder gyda chefnogaeth briodol ar gyfer ysgolion gan arwain at wella’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion. Mae ein darpariaeth ar gyfer disgyblion diamddiffyn, y rhai ag anghenion addysgol arbennig a’r rhai sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn modd cadarnhaol yn yr adroddiad.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer fechan o argymhellion ar gyfer gwelliannau parhaus, ac rydym yn cytuno â'r rhain.  Mae’r rhain yn cynnwys parhau i wella'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, gwella lefelau presenoldeb disgyblion – yn arbennig yn y sector uwchradd, a lleihau’r nifer o waharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell ein bod yn gweithio gydag ysgolion i gadw diffyg ariannol ysgolion dan reolaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth hon o’n safle a pherfformiad ac rwy’n hynod o falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod y cynnydd da sy’n cael ei wneud gan wasanaeth addysg sir y Fflint. Mae’n glod i waith caled pawb sydd ynghlwm.” 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae’r adroddiad cadarnhaol hwn gan Estyn wedi nodi’r gwaith effeithiol rhwng y Cyngor a’r tîm addysg, ein hysgolion, gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion ac ystod eang o bartneriaid allweddol. Y bartneriaeth gref hon sy’n darparu profiad addysgol o safon i ddysgwyr yn Sir y Fflint, a dylem oll fod yn falch iawn ohoni.”