Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint

Published: 19/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Adneuo.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal o 30 Medi tan 5pm dydd Llun 11 Tachwedd 2019. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi weld y cynllun ac i wneud sylwadau.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn ac yn ogystal â’r wybodaeth ar ein gwefan bydd y dogfennau CDLl ar gael i’w gweld yn swyddfeydd y Cyngor Sir yn Nhy Dewi Sant, Ewlo a Neuadd y Sir, yr Wyddgrug a Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. 

Bydd copïau o’r dogfennau CDLl, ynghyd â hysbysfwrdd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd - yn rhad ac am ddim – yn y lleoliadau isod yn ystod oriau agor arferol:

  • Llyfrgell Brychdyn
  • Llyfrgell Bwcle
  • Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
  • Pafiliwn Jade Jones y Fflint
  • Llyfrgell Treffynnon
  • Llyfrgell Gymunedol Mancot
  • Llyfrgell yr Wyddgrug 

Cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau ac amseroedd a nodir. Bydd swyddogion wrth law yn ystod y sesiynau hyn i’ch arwain a’ch cynghori ar sut i wneud sylwadau ar y dogfennau.

 Lleoliad

 Dyddiad ac Amser

Canolfan Gymunedol Brychdyn a Bretton, Brookes Avenue, Brychdyn

4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019 

Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Bwcle (Bistre), Ffordd Nant Mawr

4pm - 8pm, Dydd Mercher, 2 Hydref 2019

Canolfan Gymunedol Parkfields Yr Wyddgrug, Ash Grove

4pm - 8pm, Dydd Iau, 3 Hydref 2019

Neuadd Bentref Mancot a Moor, Lôn Mancot

4pm - 8pm, Dydd Gwener, 4 Hydref 2019

Cei Connah, Adeilad y Cei, Fron Road

4pm - 8pm, Dydd Llun, 7 Hydref 2019

Canolfan Gymunedol Heulwen Close, Yr Hob - Caergwrle Abermorddu Cefn y Bedd

4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 8 Hydref 2019

Canolfan Gymunedol Woodside Close, Ewlo

4pm - 8pm, Dydd Mercher, 9 Hydref 2019

Neuadd y Dref, Sgwâr y Farchnad, Y Fflint

4pm - 8pm, Dydd Iau, 10 Hydref 2019

Sefydliad Coffa Caerwys - South Street, Caerwys. Caerwys i ganolbwyntio ar gynigion mwynau

4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2019

Canolfan Gymunedol New Brighton, Ffordd Moel Famau

5pm - 8pm, Dydd Gwener, 18 Hydref 2019

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell: 

“Mae’r Cyngor wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau wrth ymgysylltu ag amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid wrth i’r CDLl ddatblygu i ddarparu fframwaith Sir y Fflint ar gyfer cynllunio defnydd tir er mwyn gallu ei gyflwyno yn hyderus ar gyfer ymgynghori.

“Pan fydd wedi’i orffen, bydd yn darparu fframwaith cynllunio cynhwysfawr a diweddaraf yn y sir a bydd yn ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy.”

Bydd gwybodaeth bellach ar y Cynllun Adneuo a sut y gallwch gymryd rhan a rhoi eich sylwadau ar gael ar ein gwefan o 30 Medi 2019 (siryfflint.gov.uk/CSYFFCDLL).