Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2020

Published: 24/10/2019

Mae calendrau a phamffledi ynghylch prisiau casgliadau gwastraff gardd 2020 yn ogystal â manylion ynghylch ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff wedi cael eu dosbarthu i bob cartref ar draws y Sir. 

Bydd gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2020 yn dechrau ar 1 Mawrth 2020 a bydd yn para tan ddydd Sul 13 Rhagfyr 2020, gan gynnwys y diwrnod hwnnw. 

Mae gwybodaeth ynghylch gwasanaethau casglu gwastraff gardd 2020 ar gael ar wefan Sir y Fflint: siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd2020.

Rydym bellach yn derbyn tanysgrifiadau ar gyfer gwasanaeth casglu 2020.

Gellir talu ar-lein ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn am gost o £32. Gall drigolion hefyd ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus yn ein Canolfannau Cyswllt er mwyn gwneud taliadau ar-lein.

Y pris ar gyfer dulliau eraill o dalu (ar y ffôn neu giosg Canolfan Cyswllt) yw:

  • £32 ar neu cyn 29 Chwefror 2020
  • £35 ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae‘r gwasanaeth yn parhau i fod yn boblogaidd ymysg ein trigolion ac mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty yn Yr Wyddgrug, Bwcle, Maes Glas, Sandycroft ac Oakenholt sy’n derbyn gwastraff gardd drwy’r flwyddyn.    Mae cyngor a mwy o wybodaeth ar gompostio gwastraff cartref a gwasanaethau ailgylchu ar gael ar ein gwefan.”