Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caeau Canmlwyddiant

Published: 03/12/2019

Cynhaliwyd seremonïau i ddynodi pedwar safle yn Sir y Fflint yn Gaeau Canmlwyddiant yn ddiweddar yn:

  • Y Grîn gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint;
  • Gerddi Coffa Panton Place, Treffynnon
  • Parc Willows, yr Hôb
  • Gardd Goffa Coed-llai, Coed-llai

Mae Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â'r Lleng Frenhinol Brydeinig, i warchod ac amddiffyn mannau agored gwerthfawr sydd â rhywfaint o arwyddocâd i'r Rhyfel Mawr, er cof am y rhai fu farw.

Mae’r dynodiad yma’n sicrhau y bydd y safleoedd yma’n parhau i fod ar gael fel man hamdden i’r gymuned am byth.  Mae amddiffyn parciau a mannau gwyrdd am byth yn ffordd arloesol o anrhydeddu cof milwyr y Rhyfel Mawr, boed yn filwrol neu’n sifil, a gyfrannodd gartref er mwyn creu bywyd gwell ar gyfer y cenedlaethau i ddod. 

Ar draws y DU, mae Caeau Canmlwyddiant wedi amddiffyn cofebion rhyfel, parciau a chaeau hamdden, gerddi coffa, caeau chwarae neu fannau gwyrdd arall sydd â chyswllt sylweddol at y Rhyfel Byd Cyntaf. 

_DSC7713.jpg  Y Grîn gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint    7867.jpg  Gerddi Coffa Panton Place, Treffynnon

 

7913.jpg  Parc Willows, yr Hôb          8091.jpg  Cofeb, Coed Llai

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Meysydd Chwarae Cymru Brynmor Williams:

 “Rydym yn llongyfarch Cyngor Sir y Fflint am ddynodi’r pedwar safle yma’n Gaeau Canmlwyddiant. Maent bellach wedi’u cynnwys am byth yn ein rhaglen i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Trwy amddiffyn y safle yma rydym yn cydnabod aberth y rhai a fu farw yn ystod y rhyfel, ond mae hefyd yn sicrhau fod gan genedlaethau’r dyfodol fan gwyrdd gwerthfawr i fwynhau fel gwaddol.” 

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae’n bleser gennym gymryd rhan yn rhaglen Caeau Canmlwyddiant Meysydd Chwarae Cymru er mwyn diolch yn gyhoeddus ac mewn ffordd unigryw i genhedlaeth y Rhyfel Mawr.  Mae’n bleser gen i ymuno â chynrychiolwyr o gynghorau tref a chymuned, Meysydd Chwarae Cymru a’r Lleng Frenhinol Brydeinig yn y safleoedd yn y Fflint, Treffynnon a’r Hôb gan fynychu seremonïau syml ond pwysig ac arwyddocaol i ddynodi’r mannau cyhoeddus hyn yn Gaeau Canmlwyddiant.”

 

Rydym yn gweithio gyda thirfeddianwyr, grwpiau cymunedol a’r rhai sy’n llunio polisi i gefnogi gwerth ein parciau a mannau gwyrdd er mwyn eu hamddiffyn yn well yn y dyfodol ar lefel lleol a chenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Meysydd Chwarae Cymru www.fieldsintrust.org/cymru

 Mae Caeau Canmlwyddiant yn rhaglen sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth gyda’r Lleng Frenhinol Brydeinig, er mwyn amddiffyn parciau a mannau gwyrdd am byth i anrhydeddu’r rhai a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr. Fe lansiwyd y rhaglen yn 2014 gan Lywydd Meysydd Chwarae Cymru Ei Fawrhydi Dug Caergrawnt a ofynnodd i dirfeddianwyr ar draws y DU i ddynodi caeau chwarae, caeau hamdden, gerddi coffa neu barciau sydd â chofeb rhyfel neu sydd ag arwyddocâd i’r Rhyfel Byd Cyntaf fel Caeau Canmlwyddiant. www.fieldsintrust.org/centenary-fields