Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu llwybrau yn arwain at gyflogaeth

Published: 26/11/2019

Cynhaliwyd dathliadau r gyfer y "10” arbennig yn Sir y Fflint yn ddiweddar.

‘Flintshire Firm Foundations’ yw’r 10fed cwrs "llwybrau” i'w gynnal gan dîm Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint eleni.

Mae Llwybrau yn cynnig cyfle i breswylwyr lleol ennill hyfforddiant, sgiliau a phrofiad mewn maes cyflogaeth penodol, ac sydd hefyd yn cynnwys cymorth gyda drafftio CV a gweithdy magu hyder.

Mae’r cyrsiau hyn, sydd am ddim, wedi bod yn boblogaidd iawn, ac wedi cynnwys meysydd cyflogaeth megis manwerthu, gofal plant, gofal cymdeithasol, adeiladu, arlwyo, sgiliau garddwriaethol ac achubwr bywydau.  

Ers mis Ebrill eleni, mae dros 83 o bobl wedi elwa o’r profiad hwn, ac mae sawl un wedi canfod gwaith hefyd o ganlyniad.  

Mae’r llwybr diweddaraf, Flintshire Firm Foundations, yn llwybr adeiladu, sy’n cael ei gynnal gan Cymunedau am Waith a Mwy, a’u partner, Wates Construction.  Cafodd y cyfranogwyr fwynhad o’r daith o amgylch safle adeiladu Maes Gwern yn yr Wyddgrug, cymryd rhan mewn sesiynau blasu, gan gynnwys gwaith coed a phlymio, a chwblhau eu cymhwyster Iechyd a Diogelwch Lefel 1 yn y maes adeiladu.  Cawsant amser i baratoi i gymryd eu prawf CSCS (mae angen cerdyn CSCS i ddangos fod ganddynt y cymwysterau a’r hyfforddiant priodol i weithio ar safle adeiladu).

Maent hefyd wedi cael cyngor ar sut i fynd i mewn i'r diwydiant adeiladu gan arbenigwyr yn y maes.  

Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint: 

“Dyma lwyddiant gwych, ac rwy’n falch o fod yma heddiw i ddathlu’r llwybr penodol hwn sydd yn ei ddegfed flwyddyn.  Ers i’r cyrsiau hyn ddechrau, maent wedi mynd o nerth i nerth ac maent yn darparu ffordd effeithiol iawn o ymgysylltu pobl – mae’r ffaith bod gymaint wedi cymryd rhan ac wedi canfod gwaith wedyn yn profi hynny.  Maent yn gyfle da i bobl ennill profiad a sgiliau a chymryd mantais o sesiynau blasu, a'r profiad gwaith sydd ar gael."

Meddai Dave Saville, Cyfarwyddwr yr Uned Fusnes, Wates Construction North West:

“Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ers 2015, yn darparu ein rhaglen dai mewn partneriaeth i ddod â 500 o dai newydd i’r sir. Drwy gydol y bartneriaeth hon rydym ni wedi cydweithio i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i bobl leol er mwyn eu helpu i gael gwaith hirdymor. Flintshire Firm Foundations yw’r cwrs diweddaraf sydd wedi’i ddylunio i roi hwb i yrfaoedd newydd ac mae’n bleser gennym fod yn rhan o raglen sydd â’r potensial i newid bywydau.”

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith a Mwy, i helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.   Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint.  Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Parry neu Janiene Davies o Cymunedau am Waith a Mwy ar 01352 704430 neu anfonwch e-bost at: nia.parry@flintshire.gov.uk / janiene.davies@flintshire.gov.uk.

Wates (1 of 2).jpg

 

Kevin Corness, Janiene Davies, Angie Eardley, Simon Humphrey, Nia Parry, David Williams, Darren Hildebrandt, Andrew Farrow, Leon O’Gormon, Jordan Kirby, Adain Hamzah, Arron James, Russel Mills, Dave Saville