Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymweliad gan Glwb Pêl-droed Nomads Cei Connah 

Published: 28/11/2019

Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Marion Bateman a’i chydweddog, y Cynghorydd Haydn Bateman, John a Roma Gray o Glwb Pêl-droed Nomads Cei Connah i Neuadd y Sir yn ddiweddar.

Cyflwynodd John a Roma Gray rodd i’r Cadeirydd gan Faer Cyngor Dwyrain Ayrshire.  Rodd hyn ar ôl i’r Nomads chwarae yn y Gynghrair Europa yn erbyn Clwb Pêl-droed Kilmarnock.  Roedd y gêm hon, a’r gemau eraill a chwaraewyd yn ddiweddar, yn golygu bod y tymor diwethaf yn un llwyddiannus iawn i’r clwb, gan roi Sir y Fflint ar y map pêl-droed.

 

Connahs Quay Nomads FC.jpg

 

O’r Chwith i’r Dde: Y Cyng. Haydn Bateman, Cyng. Marion Bateman, John a Roma Gray a Colin Everett, Prif Weithredwr Sir y Fflint