Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cefnogi dinasyddion yr UE sy’n byw yn Sir y Fflint

Published: 16/12/2019

Bydd Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cynnig cymorth digidol i ddinasyddion yr UE er mwyn sicrhau bod ganddynt y ddogfennaeth gywir i aros yn y DU unwaith i ni adael yr UE.

Bydd y broses gwneud cais i Gynllun Setliad y DU, yn helpu dinasyddion y DU i gael y statws sydd eu hangen arnynt i barhau i fyw a gweithio yn y DU. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau: 

“Efallai bod unigolion angen cymorth i wneud cais ar gyfer Cynllun Setliad y DU neu i gwblhau eu cais fisa’r DU, os nad oes ganddynt yr hyder i gwblhau ffurflenni ar-lein, neu os nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur neu ddyfais.  Gallwn ni helpu – mae’r broses gwneud cais yn sydyn ac yn hawdd, ond bydd angen i chi wneud apwyntiad.”

Os ydych yn ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir, gallwch chi a’ch teulu wneud cais i Gynllun Setliad y DU er mwyn parhau i fyw yn yr UE ar ôl 30 Mehefin 2021. Mae’r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Gallwch aros yn y DU heb wneud cais – er enghraifft, os ydych yn ddinesydd Gwyddelig neu os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros.

I ddarganfod mwy a threfnu apwyntiad, cysylltwch â 03333 445 675. Os oes gennych fynediad at y we, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gov.uk/settled-status-eu-citizens-families.