Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol adeg y Nadolig

Published: 19/12/2019

Mae darparwr gofal cartref Cyngor Sir y Fflint, Premier Care Plus, yn rhoi gwledd Nadolig i’w defnyddwyr gwasanaeth sy’n wynebu Nadolig ar eu pennau eu hunain.

Mae’r sefydliad wedi bod yn cynnal yr ymgyrch Cinio Nadolig ers tair blynedd ac eleni fydd y flwyddyn fwyaf hyd yma.

Eleni, bydd yr ymgyrch yn darparu cinio Nadolig tri chwrs traddodiadol i 25 o bobl hyn, yn syth at eu drws gan eu gofalwr ar noswyl Nadolig, yn barod ar gyfer ddiwrnod Nadolig.

Mae Premier Care Plus hefyd wedi gofyn i ddarparwyr gofal cartref eraill Cyngor Sir y Fflint roi gwybod am bobl hyn eraill a fydd ar eu pennau eu hunain er mwyn iddynt gael cinio ar ddydd Nadolig. Drwy hyn, mae’r cwmni’n gobeithio rhannu rhywfaint o hwyl yr Wyl.

Bydd yr holl brydau’n cael eu rhoi gan Premier Care Plus, a’u coginio gan staff sy’n gwirfoddoli o fewn y cwmni.

Dywedodd perchennog Premier Care Plus, Nicki Hopwood Clarke:

“Gall ymweliad gan weithiwr gofal cartref wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ein cleientiaid, yn enwedig ar ddydd Nadolig. Maen nhw mor falch pan maen nhw hefyd yn cael cinio ’Dolig tri chwrs poeth ac mae’n dod â chymaint o lawenydd a hapusrwydd.  Dyma esiampl arall o fy staff yn mynd tu hwnt i’r disgwyliadau ar gyfer y cleientiaid maent yn eu cefnogi.”

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint sydd â chyfrifoldeb am Werth Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld ein darparwyr gofal cymdeithasol yn mynd yr ail filltir i’n trigolion. Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i lawer o bobl, yn enwedig i’r rhai a fydd ar eu pennau eu hunain. Mae hon yn fenter wych, ac yn enghraifft wych o ymdrechion ein darparwyr ni i wneud mwy na’r galw. Hoffem ddiolch i bob un sy’n rhoi cymorth i bobl ddiamddiffyn dros y Nadolig.”

Dywedodd un o drigolion Sir y Fflint, Mrs Jones, sy’n derbyn pryd o fwyd eleni:

“Efallai na fyddwn i wedi gweld unrhyw un os na fyddai fy ngofalwr wedi galw. Mi gefais ginio Nadolig llawn gan fy ngofalwr y llynedd ac mi ydw i wir yn edrych ymlaen ato fo eto eleni. Mi gefais i ginio twrci mawr, a chracer hyd yn oed. Mi oeddwn i wedi fy synnu gan nad oeddwn i’n edrych ymlaen at y Nadolig, ond roeddwn i mor hapus ac yn mwynhau’r Nadolig eto.”

Mae Premier Care Plus, yn Oakenholt, yn darparu gofal cymdeithasol i oedolion sydd ag ystod o anghenion, gan gynnwys; pobl hyn a rhai sydd â Dementia, anableddau dysgu, nam ar y synhwyrau a salwch meddwl. Mae’r cwmni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint am 10 mlynedd, yn darparu gofal a chymorth o safon i drigolion Sir y Fflint sydd â’r anghenion cymhleth hyn.

 

old lady at christmas mid.jpg