Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sesiwn Wybodaeth ar Faethu

Published: 28/05/2015

Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ofalwr maeth ac arnoch chi eisiau gwybod mwy? Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth (1 – 14 Mehefin), mae Gwasanaeth Maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ddydd Iau 4 Mehefin yng Ngwesty’r Days, Garden City, Queensferry. Mae’r noson yn dechrau am 7pm gyda chyflwyniad, sy’n ateb cwestiynau cyffredin am faethu. Bydd y noson hefyd yn gyfle i chi gwrdd ag aelodau o’r tîm a dysgu mwy am sut y gallwch chi helpu, naill ai drwy faethu’n llawn amser neu drwy gynnig seibiant, helpu gyda chysgu dros nos neu ymweliadau. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Ar hyd a lled y Deyrnas Unedig mae yna gynnydd yn nifer y plant mewn gofal, ac mae arnom ni eisiau pobl Sir y Fflint gamu ymlaen a gweld a fedran nhw faethu. Pob blwyddyn mae gofalwyr maeth profiadol yn gadael oherwydd ymddeoliad neu resymau teuluol eraill, ac felly mae angen recriwtio gofalwyr maeth newydd o hyd. “Mae gan wasanaeth maethu Sir y Fflint 114 o ofalwyr maeth sy’n gwneud gwaith penigamp (y nifer uchaf erioed yn yr awdurdod lleol) ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw eisoes yn gofalu am blant a’u gwlâu yn llawn. Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ôl dros 200 o blant ac, yn y 12 mis diwethaf, roedd ar 77 o blant eraill angen gofal maeth, sef o leiaf 6 phlentyn pob mis. Mae yna hefyd gynlluniau i ymestyn gofal maeth i’r rheiny dros 18 oed ac i wneud hyn bydd arnom ni angen mwy o ofalwyr maeth. Nid yw’n hawdd, ond mae bod yn ofalwr maeth yn rhywbeth gwerth chweil.” Meddai Jill Jones o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint: “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth, heb orfod ymrwymo i unrhyw beth. “Mae maethu yn agored i bobl sengl, priod, pobl sy’n byw gyda’i gilydd, yn gweithio, wedi ymddeol, pobl ddi-waith, pobl hoyw a strêt, dim ots faint yw’ch oed chi na faint o blant sydd gennych chi. Yn fwy na dim, rydym ni’n chwilio am bobl sy’n gallu cynnig cartref sefydlog a diogel, ac sydd â’r ymrwymiad, sgiliau a’r gallu i edrych ar ôl plant sydd wedi gorfod gadael eu teuluoedd eu hunain.” I wybod mwy, ewch i www.flintshirefostering.org.uk