Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwneud cysylltiad â maethu

Published: 04/06/2015

Oes gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i wneud newid cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint? Gydar nifer uchaf erioed o blant yn dod i mewn i ofal ar draws y DU, ar angen i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint, mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i breswylwyr lleol wneud cysylltiad â maethu, fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth (1 – 14 Mehefin). Meddai Jill Jones o Wasanaeth Maethu’r Cyngor: “Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw ‘gwneud cysylltiad’, ac mae’n gofyn i bobl i siarad am beth mae maethu yn ei olygu iddyn nhw, eu teulu, a’u ffrindiau. Mae hefyd yn ymwneud â chwalu mythau ynghylch maethu a chanolbwyntio ar y sgiliau ar profiad sydd eu hangen i ddod yn ofalwr maeth ac i ddarparu cartref cariadus i blant diamddiffyn.” Mae Helen or Wyddgrug wedi bod yn ofalwr maeth am y saith mlynedd diwethaf, yn gofalu am blant o chwe wythnos oed i 16 mlwydd oed. Mae hi wedi gofalu am 27 o blant. “Mae pob plentyn yn unigolyn; maen nhw’n dod o gartrefi gwahanol, maen nhw wedi cael profiadau gwahanol ac mae ganddyn nhw eu set eu hunain o broblemau. Mae gan lawer or plant rwyf wedi gofalu amdanyn nhw broblemau gyda bwyd oherwydd ei fod yn rhoi cysur iddyn nhw ac maen nhw wedi dod o gartref lle nad oedd amseroedd bwyd rheolaidd a lle nad oedd bwyd ar gael bob amser. “Mae angen ymrwymiad ir plentyn ac ymrwymiad i fynychu hyfforddiant, yn enwedig yn ystod eich blwyddyn gyntaf o faethu. Mae hyfforddiant yn eich helpu i ddeall ymddygiad y plant, y trawma gwahanol y mae’r plant hyn wedi eu hwynebu a sut i ddelio â hynny. Maen rhoi syniadau a strategaethau newydd i chi.” Dywed Helen ei bod yn bwysig paratoi eich hun ymlaen llaw, bod yn realistig, ac ystyried anghenion eich teulu eich hun cyn i chi ymrwymo: “Os ydych yn meddwl am faethu mae angen i chi ystyried a allwch roi’r ymrwymiad ar amser y mae ei angen. Rhaid i chi drafod yn hir ac yn galed fel teulu a phenderfynu ai dymar amser cywir. Ni fyddwn yn dechrau maethu pan fydd hi’n amser arholiadau, byddain well aros ac osgoi’r amhariad ar gyfer plant eich hun. “Un myth ynghylch maethu yw’r farn y bydd dod â phlentyn i gartref cariadus yn gwneud popeth yn well. Nid ywr un fath â rhianta eich plant eich hun, oherwydd nid yw eich plant eich hun erioed wedi bod drwy’r trawma hwnnw. Os ydych wedi bod yn rhiant da i’ch plant eich hun mewn un ffordd, nid yw hynnyn golygu y bydd yn gweithio wrth faethu. “Fel gofalwr maeth mae angen strwythur a ffiniau. Byddwn yn dweud wrth y plant bod rheolau yn ein ty ni or diwrnod cyntaf un. Fydda i byth yn dweud ‘Dwin gwybod sut rwyt ti’n teimlo’ oherwydd dydw i ddim. Allaf i ddim dechrau dychmygu sut maen nhw’n teimlo.” Hyd yn oed ar ôl gofalu am 27 o blant, dywed Helen ei bod yn bwysig gwybod pryd i ofyn am help: “Peidiwch â bod ofn codir ffôn i’r tîm maethu neu ofalwyr maeth eraill. Nid ywn arwydd o fethiant. Maen well gofyn am gymorth cyn iddo droin argyfwng. Mae bob amser rhywun ar ben arall y ffôn. Rhaid i chi allu gweithio gyda phobl eraill a siarad am bethau. Rwyf bob amser yn cael cefnogaeth dda gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint pryd bynnag y bydd ei hangen, a dyna pam fy mod yn dal i faethu ar ôl saith mlynedd.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae plant lleol sydd angen ein help. Mae llawer o fythau ynghylch pwy all fod yn ofalwr maeth, ond beth syn bwysig mewn gwirionedd yw bod gan rywun yr ymrwymiad, y sgiliau ar gallu i ofalu am blant sydd wediu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd eu hunain, ac i gynnig cartref sefydlog a diogel iddynt. Nid ywn hawdd, ond mae bod yn ofalwr maeth yn rhoi boddhad mawr.” “Mae angen penodol am ofalwyr maeth i ofalu am blant dros 15 a dan 4 oed. Mae pobl ifanc dros 15 oed yn aml wedi byw gyda nifer o ofalwyr maeth, ac mae angen help arnynt i ddal i fyny âu cyfoedion au paratoi ar gyfer byw ar eu pen eu hunain. Ychwanegodd Jill Jones o Wasanaeth Maethu’r Cyngor: “Mae maethu yn agored i bobl sydd yn sengl, yn briod, yn byw gydai gilydd, yn gweithio, wedi ymddeol, yn ddi-waith, yn hoyw, yn heterorywiol, yn hen ac ifanc, gyda phlant neu heb blant...ond nid ywn hawdd ac rydym yn chwilio am bobl gyda llawer o benderfyniad, egni, amser ac sydd ar gael. Yn enwedig os yw plant eich hun wedi tyfu i fyny a bod gennych yr holl brofiad hwnnw i’w rannu gyda phlentyn arall sydd wedi methu allan ar y plentyndod y maent yn ei haeddu.” Saith mlynedd, a 27 o blant yn ddiweddarach, mae Helen wrth ei bodd â’r gwobrau a ddaw yn sgil maethu. Mae merch Helen ei hun bellach yn y brifysgol ac maen mwynhau gweld y plant maeth pan ddaw hi adref: “Maen hoffi clywed am y pethau rhyfedd y bydd y plant yn eu gwneud a’u dweud, ac mae yna gymaint o ‘adegau gorau’. O’r plant sydd yn dweud wrthych eu bod yn eich caru chi, i’r bachgen 16 oed sy’n dweud wrthym ein bod yn cwl! Wyneb merch fach, bob bore pan fyddwn i’n mynd i’w chodi o’i chrud – byddai ei gwên yn ddechrau gwych i’r diwrnod. Y plentyn syn dilyn fy ngwr o gwmpas, gan rwbio ei ddwylo ynghyd, a dweud ‘Gwaith da’ - gallwn fynd ymlaen am byth.” Ychwanegodd Jackie Sanders, Cyfarwyddwr Y Rhwydwaith Maethu: “Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, rydym yn gweld mwy a mwy o blant yn dod i mewn i ofal. Mae angen pobl a all agor eu calon, a’u cartrefi, i blant a phobl ifanc ddiamddiffyn sydd angen cymorth ar adeg hollbwysig yn eu bywydau ifanc. “Bydd gofalwr maeth da yn credu yn uchelgais y plant yn eu gofal yn yr un modd ag y byddent yn credu yn uchelgais aelodau o’u teulu eu hunain. Mae plentyndod yn rhy fyr i’w wastraffu, a gall gofalwyr maeth helpur rhai nad ydynt wedi cael y dechrau gorau i ddechrau mwynhau eu bywyd a thyfu i fod yn oedolion y maent am fod.” I ddarganfod mwy am faethu ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, cysylltwch â fostering@flintshire.gov.uk, ewch i www.maethusiryfflint.org.uk neu ffoniwch 01352 702190