Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru - diweddariad
Published: 09/05/2014
Mae cwmni tai newydd Cyngor Sir y Fflint ar agor i fusnes a bydd aelodaun cael
yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth (13
Mai).
Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yw cwmni newydd arloesol y Cyngor sy’n darparu
llety i bobl ar y rhestr fforddiadwy sy’n anghymwys i gael tai cymdeithasol ond
sy’n ei chael yn anodd fforddio rhenti preifat.
Bydd aelodau’r Cabinet hefyd yn clywed y diweddaraf ynghylch cynnydd Cartrefi
Gogledd-ddwyrain Cymru sydd eisoes yn rheoli 10 eiddo, wedi lansio gwefan ac
wedi cynnal cyfarfod cyntaf eu bwrdd. Bydd cynlluniau a fydd yn cael eu
cymeradwyo’n fuan yn golygu y bydd y cwmni, cyn bo hir, yn gallu trafod yn
uniongyrchol â datblygwyr tai syn cynnig unedau anrheg ir Cyngor fel rhan
or targedi parhaus ar gyfer tai fforddiadwy.
Bydd y cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth rhentu a rheoli i landlordiaid a bydd
perchnogion tai dros 55 oed hefyd yn gallu prydlesu eu heiddo i’r cwmni a chael
rhagor o bwyntiau ar gyfer llety ymddeol y cyngor.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai:
“Mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn cynnig gwasanaeth gwych i bontior
bwlch rhwng tai cymdeithasol a thrigolion sydd angen rhenti mwy fforddiadwy a
bydd y dewis o dai a fydd ar gael i’n trigolion yn llawer gwell. Mae’r cwmnin
cynnig gwasanaethau i landlordiaid yn ogystal ag i drigolion hyn a bydd yn
fodlon iawn ateb pob ymholiad.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth tai newydd, amgen a fforddiadwy i bobl yr ardal.
I lawer o bobl leol, pobl ifanc yn aml, mae rhai rhenti preifat yn
anfforddiadwy ac allan o gyrraedd. Rwy’n falch fod Cyngor Sir y Fflint yn
arwain y ffordd fel y Cyngor cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei
hunan. Mae’r cwmni eisoes yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n edrych ymlaen at
weld y cynnydd y bydd yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y gofrestr fforddiadwy a dod yn denant
Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru, neu os ydych yn landlord a hoffai weithio
gydar cwmni, ewch ir wefan www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffoniwich 01352
701400.