Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet considers its annual progress

Published: 12/06/2015

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (16 Mehefin) bydd y Cabinet yn trafod ei gynnydd a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Bydd aelodau’r Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o safbwynt Cynllun Gwella’r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd hefyd yn cael adroddiad diwedd blwyddyn ar bartneriaethau strategol y Cyngor, gan gynnwys Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint. Dyma’r rai o’r prif bwyntiau: - bwrw ymlaen â gwaith datblygu tai a gwaith adfywio ar hyd a lled y sir drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Yn y pen draw, caiff 500 o dai fforddiadwy newydd eu codi yn ystod y pum mlynedd nesaf; - cymeradwyo trydydd cartref Gofal Ychwanegol y Sir a hynny yn y Fflint; - y Cyngor fydd yr awdurdod cyntaf yn y Gogledd i gael achrediaeth Rhuban Gwyn am ei waith ym maes cam-drin domestig ; - llwyddiant y Gronfa Gofal Canolraddol i helpu gwasanaethau Gofal Canolraddol newydd neu ychwanegol; - ehangu darpariaeth Dechrau’n Deg yn y sir; - dros £6m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus a Llawn Addewid. Fe’i gwariwyd yng Nglannau Dyfrdwy lle mae gwaith ar y gweill i wella’r ardal ddifreintiedig hon yn ogystal â’r sir yn ei chyfanrwydd; - creu 1,130 o swyddi newydd yn y sir, gan gynnwys 1,012 yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy; - 99.6% o bobl ifanc 16 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ar ddiwedd y flwyddyn; - yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf, cafodd 1,622 o bobl Sir y Fflint gyngor a chymorth gan y Tîm Hawliau Lles. Yn sgil yr ymyriadau llwyddiannus sicrhawyd budd-daliadau lles a thaliadau credyd treth gwerth £3.1 miliwn at ei gilydd. - adroddiad blynyddol da gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd cyffredinol da wrth roi ei flaenoriaethau gwell ar waith, a pherfformiad cryf gan nifer o feysydd gwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaehu meysydd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymunedau. Caiff ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau. Er gwaethaf y problemau ariannol anodd rydym yn eu hwynebu, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda ac rydym wedi cyflawni llawer y gallwn fod yn falch iawn ohonynt.” Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae’r adroddiadau hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn Gyngor cost-effeithiol sy’n gwerthfawrogi ei bartneriaethau, ac sy’n parhau i wella o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae’r Cyngor yn perfformio’n gryf yn ôl ei flaenoriaethau, yn enwedig ym maes addysg, yr economi leol a thai.”