Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiadau Gyrru Am Ddim i Rai dros 65 oed

Published: 02/09/2015

Mae gyrwyr hyn yn Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i dderbyn cynnig o asesiad gyrru am ddim. Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig sesiwn yrru am ddim i drigolion dros 65 oed, i’w helpu i addasu eu harddull gyrru i aros yn ddiogel ac yn hyderus ar y ffordd wrth iddynt fynd yn hyn. Mae hyfforddwyr gyrru o Wasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru sydd wedi cael hyfforddiant arbennig yn cynnal asesiadau ac yn darparu cyngor a gwybodaeth i helpu pobl hyn i aros y tu ôl i’r llyw yn hirach. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Byddwn yn annog ein preswylwyr dros 65 oed i dderbyn y cynnig hwn am sesiwn yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, gall newidiadau ddigwydd sy’n effeithio ar y ffordd yr ydym yn gyrru, gan gynnwys ymateb yn arafach a chymryd mwy o amser i wneud penderfyniadau. Gall gyrru hefyd achosi mwy o flinder a straen. Mae rhai gyrwyr yn sylwi ar newidiadau tebyg mor gynnar a chanol eu pumdegau. Wrth iddynt heneiddio, gall y rhan fwyaf o bobl barhau i yrru’n ddiogel ac heb unrhyw broblemau, ond gall hyn fod yn haws gydag ychydig o help gan weithwyr proffesiynol.” Mae’r asesiadau gyrru’n cynnwys gwasanaeth o ddrws i ddrws. I archebu neu ganfod mwy, cysylltwch â’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.