Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2015

Published: 10/09/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn cynnal Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni ddydd Gwener 18 a dydd Sadwrn 19 Medi. Maer digwyddiad glanhau blynyddol, a gydlynir gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ôl am ei 9fed flwyddyn! Am ddeuddydd, ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer, bydd gwirfoddolwyr, grwpiau cadwraeth a busnesau yn ymuno â gwasanaethaur cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd pawb syn cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol syn cael ei olchi i fyny ar hyd Afon Dyfrdwy, ac yn paentio a thaclusor lleoedd arbennig ar hyd ei glannau ar arfordir, o fynyddoedd Cymru i gynefin arfordirol aber afon Dyfrdwy. Y llynedd, bu cannoedd o bobl yn cymryd rhan a chasglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel. Yn Sir y Fflint, maer ymdrechion yn cael eu cydlynu gan wasanaeth Ceidwaid yr Arfordir a Strydwedd y Cyngor. Bydd Ceidwaid yn cymryd y cyfle i weithio gyda grwpiau cymunedol i blannu coed, bylbiau a helpu i adfer cynefin gwlyptiroedd ar hyd arfordir y sir gyda gwirfoddolwyr cymunedol. Cefnogir y digwyddiad gan lawer o grwpiau cymunedol a nifer o fusnesau, gan gynnwys Airbus, Kingspan, ENI, a llawer mwy. Eleni, Tesco ywr cwmni diweddaraf i ddangos eu cefnogaeth gydag 80 o aelodau o staff yn gwirfoddoli eu gwasanaethau ar gyfer y glanhau. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o fod yn cynnal Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. Maer digwyddiad wedi mynd yn fwy bob blwyddyn ers iddo gael ei sefydlu yn gyntaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn 2007 gyda mwy a mwy o bobl, grwpiau cymunedol a busnesau yn cymryd rhan. “Maen wirioneddol wych gweld cynifer sydd am helpu i ofalu am ein hamgylchedd lleol a’i ddiogelu. Maer gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn lân i ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae amser o hyd i gymryd rhan os hoffech ddod draw ac ymuno â ni.” Dywedodd Uwch Geidwad yng Nghyngor Sir y Fflint, Mike Taylor: “Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy dros y naw mlynedd diwethaf a’i wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad trawsffiniol pwysig syn cwmpasu milltiroedd o’r arfordir o Dalacre i Gaer a Llangollen. Mae gwir ymdeimlad o falchder cymunedol, gyda gwirfoddolwyr nid yn unig yn gweithio i lanhaur afon, ond hefyd yn plannu coed a bylbiau a phaentio i wellar amgylchedd ar hyd y glannau.” Cysylltwch âr Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01352 703900 i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir yn Sir y Fflint. Nodyn i olygyddion Bydd Brecwast Lansio Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni, a noddir gan Airbus, yn digwydd yn Chocs Away Diner ym Maes Awyr Penarlâg ddydd Gwener 18 Medi. Mae croeso i’r wasg fod yn bresennol rhwng 7.30am a 9am i gael cyfleoedd i dynnu lluniau a gwrando ar areithiau. Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007. Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i helpu i dynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus, Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth. Mae miloedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan gannoedd o wirfoddolwyr, ac mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed!