Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhybudd lladrata o dai
Published: 20/05/2014
Mae Safonau Masnach Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn codi ymwybyddiaeth
ynghylch lladradau diweddar yn Sir y Fflint. Mae ymchwiliadau’r Heddlu wedi
clustnodi rhai ardaloedd y mae galwyr diwahoddiad wedi ymweld â nhw cyn i
ladradau ddigwydd ac maent yn credu y gall fod cysylltiad rhwng yr achosion o
alw’n ddiwahoddiad a’r lladradau.
Mae grwp Gostwng Troseddu Stepen y Drws Sir y Fflint yn codi ymwybyddiaeth o
beryglon delio â galwyr diwahoddiad ar hyn o bryd ac yn cynghori sut i wneud
yn siwr fod cartrefi a phethau gwerthfawr preswylwyr yn ddiogel.
Arweinir y grwp gan Safonau Masnach Sir y Fflint ac mae’r aelodau’n cynnwys
Heddlu Gogledd Cymru, Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint, Wardeniaid Cymdogaeth
Sir y Fflint ac Age Connects ymhlith sefydliadau eraill.
Meddai Yolande Blower swyddog Safonau Masnach yn Sir y Fflint, sy’n cadeirio’r
grwp: “Mae galwyr diwahoddiad yn aml yn hen gyfarwydd â’r hyn y maent yn ei
wneud; mae ganddynt eu perswâd i brynu, atebion i’ch cwestiynau ac esgusodion i
gyd wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Byddant yn rhoi llawer o resymau i ennill
eich hyder i gael mynediad i mewn i’ch cartref ac fe allai’r rheswm go iawn fod
i weld pa bethau gwerthfawr a allai fod gennych neu ble’r ydych yn cadw
’goriadau eich car a phethau gwerthfawr eraill.
“Mae’r grwp Gostwng Troseddu Stepen Drws wedi ymrwymo i wella diogelwch
cymunedol ac rydym yn gofyn i breswylwyr hybu ysbryd cymunedol cadarnhaol, a
chefnogi eich cymdogion, yn enwedig y rheini sy’n fregus. Rydym yn cynghori pob
preswylydd i ddweud na wrth alwyr diwahoddiad a rhoi gwybod am unrhyw amheuon i
naill ai Heddlu Gogledd Cymru neu’r Safonau Masnach.”
Mae preswylwyr yn cael y cyngor canlynol i ddweud na wrth alwyr diwahoddiad:
• Peidiwch byth â gadael i ddieithryn ddod i mewn i’ch cartref
• Os oes gennych dwll sbïo neu gadwyn ar eich drws, defnyddiwch nhw wrth ateb y
drws.
• Arddangoswch sticer dim galw diwahoddiad – mae’n atal galwyr diwahoddiad
I ofyn am sticer dim galw diwahoddiad ffoniwch safonau masnach Sir y Fflint ar
01352 703181.
Mae’r heddlu’n gofyn i breswylwyr ffonio 101 neu Crimestoppers ar 0800555111 os
ydynt yn gweld rhywbeth amheus a 999 os ydynt yn teimlo bod rhywun yn ceisio
mynd i mewn i dy.
Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr trosedd, pa un a ydych wedi rhoi gwybod
amdano i’r heddlu ai peidio, gellwch gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru ar
0845 6 121 900 i gael help cyfrinachol, am ddim.