Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno ffioedd maes parcio

Published: 25/09/2015

Cafodd strategaeth barcio sirol, syn cynnwys cyflwyno ffioedd parcio ym mhob maes parcio tref syn eiddo ir Cyngor Sir, ei chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor fis Ebrill. Bydd y strategaeth newydd yn darparu dull cyson i barcio oddi ar y stryd mewn meysydd parcio. Mae mesurau parcio a gorfodaeth yn arfau allweddol i reoli rhwydwaith priffyrdd yn effeithiol ac i helpu i osgoi tagfeydd. Mae rheoli parcio oddi ar y stryd yn effeithiol yn hanfodol i gynnal bywiogrwydd ac egni tref. Bydd y ffioedd parcio yn cael eu gweithredu’n raddol ar draws y sir rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn nesaf. Cafodd ffioedd eu cyflwyno ym Mwcle yn Awst ynghyd â ffioedd newydd yng nghanol tref yr Wyddgrug. Mae hyn yn awr yn cael ei ddilyn gan Dreffynnon a bydd parcio talu ac arddangos yn cael ei gyflwyno ar ddydd Llun 28 Medi 2015. Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd ffioedd yn cael eu gweithredu yng Nghei Connah, Queensferry a Shotton ym mis Hydref ac ymestyn strategaeth barcio’r Wyddgrug i ymgorffori meysydd parcio yn Neuadd y Sir ym mis Ionawr 2016. Bydd yr amserlen ar gyfer rhoi’r taliadau parcio ar waith yn y Fflint yn cael eu cyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf. Maer rhestr lawn o’r trefi a’r meysydd parcio yr effeithir arnynt, ynghyd â’r ffioedd a’r oriau y codir tâl ar gael ar wefan y Cyngor website. Nid oes unrhyw gynllun i gyflwyno ffioedd i’r rheiny â bathodynnau glas sy’n parcio ym meysydd parcio’r Cyngor mewn mannau parcio dynodedig ir anabl. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Mae’r Strategaeth Parcio yn cael ei chyflwyno fel rhan o’n her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £18 miliwn a mwy yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym ni wedi addasur cynigion gwreiddiol i gymryd prif bryderon a godwyd yn ystod ymgynghoriadau i ystyriaeth, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn.