Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darlith Pennant yn Llyfrgell Treffynnon

Published: 14/10/2015

Bydd Llyfrgell a Chanolfan Dysgwyr Treffynnon yn cynnal Darlith Flynyddol Pennant am y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg nos Iau 15 Hydref am 7.30pm. Gwahoddwyd Dr Mary-Ann Constantine gan Gymdeithas Thomas Pennant i roi’r ddarlith eleni dan y teitl ‘Merched Thomas Pennant’. Mae Dr Mary-Ann Constantine yn Uwch Gymrawd ac Arweinydd Prosiect yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar waith ysgrifennu teithio, y daith o amgylch Cymru a gwaith ysgrifennu Thomas Pennant. Pwrpas cymdeithas Pennant yw dathlu ei gyflawniadau a hyrwyddo astudiaethau pellach o fywyd Thomas Pennant, sef awdur teithio a natur toreithiog a anwyd yn 1726 ac a oedd yn byw yn Chwitffordd, Sir y Fflint. Cost y tocynnau yw £3 ac maent ar gael o’r llyfrgell. Mae nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig felly fe’ch argymhellir yn gryf i brynu tocynnau o flaen llaw. Noddir y digwyddiad gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint a Chymdeithas Thomas Pennant. Am wybodaeth bellach ffoniwch Llyfrgell Treffynnon ar 01352 713157.