Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi gosodiadau lleol i gynorthwyo i gefnogi cymunedau cynaliadwy

Published: 29/10/2015

Fel landlord mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cydbwyso anghenion tenantiaid newydd a buddiannau tenantiaid presennol ac yn ceisio ymateb i anghenion tai lleol yn barhaus er mwyn cynorthwyo i greu cymdogaethau diogel a dymunol, y bydd pobl yn dymuno byw ynddynt. I gynorthwyo gyda’r nod hwn bydd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu fframwaith ar gyfer polisïau gosodiadau lleol i gynorthwyo i fynd i’r afael â materion tai lleol yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter y cyngor ddydd Mercher, 4 Tachwedd. Mae’r fframwaith arfaethedig yn ceisio: · Cynorthwyo i fynd i’r afael ag ardaloedd galw isel er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o fuddsoddiad yn ein cartrefi presennol · Cynnal cynaliadwyedd hir dymor ardaloedd sefydledig ac ardaloedd newydd gan greu lleoedd llewyrchus, iach a gwych i fyw ynddynt · Cynorthwyo i gefnogi ac annog cymunedau cytbwys a chydlynol y bydd pobl yn dewis byw ynddynt · Gwella diogelwch cymunedol trwy fynd i’r afael ac atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac aflonyddwch. · Amddiffyn buddiannau trigolion lleol a’n cartrefi trwy geisio atal neu wrthdroi dirywiad cymdeithasol ac amddifadedd. Bydd i ba raddau y bydd yr amcanion hyn yn cael eu cymhwyso yn amrywio rhwng pob polisi gosodiadau lleol, i gydnabod materion tai gwahanol ar draws y sir megis: · Ardaloedd o amddifadedd · Datblygiadau mawr newydd lle y teimlir bod angen sefydlu cymuned newydd · Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth tenantiaid sy’n symud yn seiliedig ar swydd a’r rhai sy’n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol i ardal benodol trwy ddull economaidd neu wirfoddol. · Anghenion a chynaladwyedd cymunedau gwledig e.e. lle bo prisiau tai yn broblem · Tanfeddiannu a/neu gorlenwi. Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: “Byddai polisi gosodiadau lleol yn cael ei gymhwyso naill ai ar gyfer ardal ddaearyddol benodol neu ddatblygiad adeiladu newydd a byddai’n cynorthwyor cyngor i ymateb i faterion tai lleol. Byddai hyn yn ei dro yn cynorthwyo i greu cymdogaethau cynaliadwy, llewyrchus ac iach, gan gydbwyso anghenion y tenantiaid newydd a buddiannau tenantiaid presennol. “ Cynigir bod y Cyngor yn ystyried yr angen i weithredu polisïau gosodiadau lleol ar gyfer rhai datblygiadau newydd, trwy ddechrau’r broses o gasglu tystiolaeth i ddangos a oes angen penodol ar gyfer polisi gosodiadau lleol ai peidio. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad yn unol â’r fframwaith a’r broses ar gyfer cymeradwyo er mwyn gweithredu polisi gosodiadau lleol. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ag Aelodau Etholedig lleol, grwpiau preswylwyr a Chymdeithasau Tai eraill.