Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Crynodeb Archwilio Blynyddol Cyngor Sir y Fflint

Published: 10/02/2021

Caiff Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint sicrwydd o gasgliadau Crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20 yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 16 Chwefror.

Daw’r Crynodeb Archwilio Blynyddol hwn yn lle'r Adroddiad Gwella a'r Llythyr Archwilio Blynyddol. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwaith archwilio a rheoleiddio y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i wneud o fewn y Cyngor ers i’r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019.  

Ar y cyfan mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i gasgliad cadarnhaol.  

“Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol bod y Cyngor wedi diwallu ei ddyletswyddau cyfreithiol i gynllunio ar gyfer, ac adrodd ar welliannau ac mae’n credu ei fod yn debygol o ddiwallu gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ystod 2020-21.

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy'n croesawu'r adroddiad cadarnhaol a llawn gwybodaeth hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n dangos yn glir bod y Cyngor wedi gweithredu'n effeithiol yn ystod blwyddyn hynod o heriol i lywodraeth leol. 

“Wedi dweud hynny, mae pob cynnig i wella sy’n cael ei gynnwys mewn adroddiadau rheoleiddio (yn lleol ac yn genedlaethol) bob amser yn cael ei ystyried yn llawn, i weld pa welliannau ychwanegol y mae angen eu gwneud.”

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae adroddiad yn rhoi sêl bendith i weithrediad y Cyngor hwn, gan gydnabod yn glir ein hanes profedig o reoli arian yn effeithiol yn ogystal ag adlewyrchu ein hymdrechion caled parhaus a’n hymrwymiad i wneud defnydd mor effeithlon â phosib o’n hadnoddau.” 

Bydd ymateb y Cyngor i’r cynigion ar gyfer wella yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Mawrth lle rhoddir manylion am yr adroddiadau a’r ymatebion.