Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grantiau cefnogi busnes

Published: 09/03/2021

Money small.jpg

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd er mwyn rheoli ymlediad Covid-19.  

Mae’r grantiau cefnogi’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2020 wedi arwain at roi taliadau i 2,624 o fusnesau Sir y Fflint, gyda chyfanswm o £8,850,000. 

Fe fydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd am 5pm ddydd Iau 11 Mawrth 2021. 

Mae’r rownd ddiweddaraf o grantiau cymorth annomestig wedi’u dylunio’n benodol i gefnogi’r sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn ogystal â busnes manwerthu dianghenraid. 

Mae masnachwyr hanfodol, a’r busnesau hynny yn y gadwyn gyflenwi i’r sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth sy’n gallu dangos lleihad o 40% mewn trosiant, yn gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf o grantiau.   

Os yw eich busnes yn gymwys, ac nad yw'r grant diweddaraf wedi'i ddyrannu i chi'n barod, neu os nad ydych wedi ymgeisio, llenwch y ffurflen gais ar-lein yn Ardrethi Busnes cyn 5pm ddydd Iau 11 Mawrth 2021.