Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stondinau marchnad Sir y Fflint yn ffynnu wrth i ddiwedd y pandemig nesáu 

Published: 18/05/2021

Am eu bod yn cynnig profiad hollol wahanol i’r siopau mawr, daeth cenhedlaeth newydd sbon i werthfawrogi stondinau marchnad yn ystod y pandemig. Ac mae’r bobl hynny’n awyddus i barhau i gefnogi masnachwyr lleol ac annibynnol Sir y Fflint wrth i’r locdown lacio.

Gwelodd stondinwyr yn Nhreffynnon a’r Wyddgrug gynnydd yn nifer eu cwsmeriaid, wrth i’r cyfyngiadau leihau, yn arbennig cwsmeriaid ifanc.

Bu’r marchnadoedd yn achubiaeth i lawer trwy gynnig profiad siopa llai prysur a mwy hamddenol. Y gobaith yw y bydd hyn yn parhau wrth i’r byd agor unwaith eto, er mwyn i’r masnachwyr ffynnu.

KFP_9205.JPGMae Ayman Ghosheh, 45, yn rhedeg stondin bwyd Libanus o’r enw The Camel’s Hump ar Sgwâr Daniel Owen yn Yr Wyddgrug.

Bu’n rhaid iddo gau ei dy bwyta ffyniannus yn Lerpwl am fwy na blwyddyn ac mae ei stondin yn y farchnad wedi bod yn allweddol i barhad ei fusnes.

Meddai: “Mae pobl wedi addasu i ffordd newydd o fyw – ac mae rhai nad oeddent byth siopa yn y farchnad o’r blaen wedi sylweddoli fod ansawdd y cynnyrch lleol a geir yno yn hollol wahanol i’r hyn sy’n cael ei werthu yn y siopau mawr.

“Roedd yn rhaid addasu, ac oni bai am farchnadoedd fel hon yn Yr Wyddgrug a’n gwasanaeth danfon i’r cartref, ni fyddwn i byth wedi goroesi.

“Dwi’n prynu cyn gymaint â phosibl yn lleol i bobi bwydydd a snacs traddodiadol o’r math a geir yng ngwlad Libanus.

“Busnes bach ydyn ni ac, fel stondinwyr eraill y farchnad, rydym yn ddiolchgar dros ben i’n cwsmeriaid am ein cefnogi. Byddwn bob amser yn ceisio gwneud y gorau drostynt.”

KFP_9194.JPGMae Nick White yn rhedeg stondin gaws a chig Nick’s Cheese and Meat Stall ar Stryd Fawr Yr Wyddgrug ar ddyddiau marchnad. Bu’r farchnad yn allweddol i barhad ei fusnes yntau hefyd.

“Yn ystod y clo mawr, roedd pethau’n galed ar yr ochr wholesale - ond fe wnaethom ddal i ddod i farchnad yr Wyddgrug a rhai marchnadoedd eraill. Rydw i mor ddiolchgar eu bod wedi cadw’n pennau uwchben y dwr,” meddai.

“Ar y dechrau, disgynnodd nifer ein cwsmeriaid, ond bellach mae’r bobl hyn nad oeddem wedi eu gweld ers misoedd lawer wedi dechrau dychwelyd ar ôl cael eu pigiadau.

“Roeddent yn arfer gyrru perthnasau fel wyrion a wyresau i nôl eu harchebion ac felly roeddem yn lwcus dros ben bob pobl yn dal i’n cefnogi.”

Bu’r masnachwyr annibynnol yn cynnig gwasanaeth hyblyg iawn i’w cwsmeriaid, yn cymryd archebion dros y cyfryngau cymdeithasol i’w casglu wrth y drws, a hyd yn oed cynnig cyfle i bobl gael sgwrs.

KFP_9281.JPGAm eu bod yn gwerthu nwyddau hanfodol, roedd stondin bysgod A Fish Artist from Fleetwood yn un o ddim ond dau fusnes a gafodd aros ar agor trwy gydol y clo mawr ym Marchnad Dan Do Yr Wyddgrug.

Dywed y perchennog Peter Reader fod y mis cyntaf wedi bod yn galed, ond bod yr ymdrech wedi bod werth chweil.

“Bu’n brofiad gwerthfawr aros ar agor drwy’r pandemig a dwi’n meddwl fod hynny wedi sefydlu fy enw da yn Sir y Fflint,” meddai.

“Fel arfer, pobl hyn sy’n bwyta mwyaf o bysgod, ond daeth llawer iawn o bobl ifanc i’r stondin hefyd.

“’Dwi wedi bod yma ers tua deg mlynedd a dod i adnabod yr holl deuluoedd – dyna un o’r pethau gorau. Allwch chi ddim cael yr adnabyddiaeth honno mewn siop fawr, yn arbennig wrth fynd drwy’r tiliau hunan wasanaeth.

“Ar adeg pan fo cymunedau ym mhob rhan o’r byd yn cael pethau’n anodd, mae mor braf gallu byw’n syml gyda’n gilydd yn lle bod pawb yn ei fyd bach ei hun. Rydych chi’n teimlo’n rhan go iawn o’r gymuned.”

KFP_9425.JPGAil ddechreuodd marchnad Treffynnon ar 15 Ebrill ar ôl bod ar gau dros y cyfnod clo, er bod rhai masnachwyr fel y siop flodau, wedi bod yn rhedeg gwasanaeth danfon.

Dywed Lynda Carter, sy’n rhedeg stondin yn hyrwyddo’r dref, ei bod yn hyfryd gweld pobl yn dychwelyd a’i chefnogi.

“Roedd y Dyddiau Iau cyntaf yn ôl yn dda dros ben, yn arbennig i’n hiechyd meddwl. Mae hunan ynysu bob amser yn arwain at broblemau, ac felly roedd yn wych cael dod nôl i’r farchnad a siarad efo hwn a’r llall wrth brynu llysiau a ffrwythau neu fwyd deli.

“Mae’r farchnad yn fwy na marchnad - mae’n gymuned. Mae’n cynnig gwasanaeth nad oes mo’i debyg yn unrhyw le arall.”

KFP_9440.JPGBu Vicky Russell, 55, yn rhedeg busnes gemwaith Vanilla Jewellery ers deg mlynedd. Roedd yn arfer gwerthu mewn digwyddiadau dan do, ond penderfynodd osod stondin ym Marchnad Treffynnon yn Awst 2020.

Bu’r proffil a adeiladodd ar lein yn ogystal â chael ei gweld yn rheolaidd yn y farchnad o gymorth iddi oresgyn y prinder cyfleoedd eraill.

Meddai: “O’r blaen, byddwn yn gwerthu mewn ffeiriau a digwyddiadau ac i siopau ac roedd pethau’n mynd yn dda tan y locdown. Ond yna daeth popeth i stop.

“Mae’r farchnad wedi bod yn hwb go iawn ac wedi fy helpu i ganfod cwsmeriaid a dilynwyr newydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn prynu gennyf yn y farchnad ac yna’n fy nilyn ar lein ac mae’n lle difyr a chyfeillgar i gymdeithasu.

“Wrth ddychwelyd allan, mae pobl yn naturiol yn ofalus iawn: maent yn gwybod beth yw’r gofynion diogelwch ac yn cymryd y camau cywir, ond mae mor braf bod allan unwaith eto yna siarad efo pobl eraill.”

KFP_9252.JPGDywed Anne Roberts sy’n rhedeg siop flodau Flowers by Anne ym marchnad dan do Yr Wyddgrug na fyddai mewn busnes mwyach oni bai am ei chwsmeriaid yn rhoi archebion ar lein.

Meddai: “Roedd modd inni barhau i weithio tu cefn i ddrysau caeedig, gan ddanfon blodau yn lleol neu gynnig gwasanaeth clic a chasglu o’r drws cefn. Cawsom gefnogaeth ardderchog gan ein cwsmeriaid drwy’r cyfan.

“Fe achubodd hynny ein busnes. Heb ein cwsmeriaid rheolaidd byddai pethau wedi bod yn anodd iawn a bu pobl yn hynod o gefnogol. Ein gobaith yw y byddant yn dal i siopa’n lleol gan nad ydym wedi cyrraedd y lan eto.”

Mae marchnad dan do Yr Wyddgrug ar agor bob dydd ond cynghorir pobl i gysylltu â’r stondinwyr unigol i ganfod eu oriau agor.

Cynhelir marchnad awyr agored Yr Wyddgrug bob Dydd Mercher a Dydd Sadwrn, a marchnad Treffynnon bob Dydd Iau.