Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwylio’r Cyngor yn Fyw

Published: 10/02/2016

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld democratiaeth ar waith? O ddydd Mawrth 16 Chwefror, 2016, byddwch yn gallu gwylio eich aelodau etholedig yn trafod y materion syn bwysig i chi ach cymunedau yn fyw o Siambr y Cyngor wrth i Gyngor Sir y Fflint baratoi i ymuno â Chynghorau eraill ar draws y DU wrth ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor drwyr rhyngrwyd. Bydd cyflwynor dechnoleg newydd hon yn golygu y gall pobl naill ai wylio cyfarfodydd wrth iddynt ddigwydd, neu ddal i fyny yn ddiweddarach, ar adeg ac mewn lleoliad syn gyfleus iddyn nhw. I weld y cyfarfodydd hyn ar-lein ewch i http://www.flintshire.public-i.tv/core/portal/home Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, “Mae Gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor wedi cael ei gyflwynon llwyddiannus mewn nifer o Gynghorau ledled y Deyrnas Unedig ac rwyn falch iawn bod gan Sir y Fflint bellach y cyfle i wireddu manteision gwe-ddarlledu yn nhermau ymgysylltu âr cyhoedd a thryloywder. “Maer dechnoleg hon yn cynnig dull arall i’r cyhoedd ymgysylltu yn agosach âr broses ddemocrataidd ac i fusnes llywodraeth leol fod yn fwy tryloyw. Bydd hefyd yn golygu y gall y cyhoedd graffu yn agosach ar farn, gweithredoedd a safbwyntiau Cynghorwyr lleol.”