Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu gwneud cais i atal yr Hawl i Brynu yn Sir y Fflint

Published: 23/02/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i Brynu ar gyfer pob un o dai’r cyngor. Dros y chwarter canrif diwethaf, mae nifer y tai Cyngor sydd ar gael iw rhentu wedi lleihau drwy werthiannau Hawl i Brynu, tra bod nifer y bobl sydd angen tai cyngor wedi parhau i godi. Yn ystod 2016, bydd y Cyngor yn rhoi ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar waith pan fydd 500 o dai cyngor a fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar draws Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf. Y cyngor fydd yn rheoli’r tai cyngor newydd. Bydd y 300 ty fforddiadwy arall yn cael eu rheoli gan gwmni tai newydd, sef NEW Homes, sy’n eiddo i’r Cyngor. Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Cyngor gynlluniau ar gyfer i’r 12 ty Cyngor newydd cyntaf gael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Custom House yng Nghei Connah. Bydd y tai newydd yn cael eu hadeiladu gan bartner Datblygur Cyngor Wates Living Space a disgwylir i’r gwaith gychwyn ddiwedd mis Chwefror 2016. Drwy atal yr Hawl i Brynu, bydd Sir y Fflint yn cadw ei stoc bresennol o dai cyngor, a bydd hefyd yn diogelu’r tai newydd er mwyn creu cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl leol gael byw yn Sir y Fflint. Bydd y Cyngor yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i Brynu am gyfnod o 5 mlynedd. Mae’r Llywodraeth Cymru presennol yn bwriadu llunio deddfwriaeth sylfaenol newydd - Mesur - i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu. Byddair Mesur drafft yn cael ei baratoi er mwyn i Lywodraeth newydd Cymru ei ystyried fel rhan oi rhaglen ddeddfwriaethol yn y Cynulliad nesaf. Dywedodd Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton: “Mae darparu tai fforddiadwy o safon yn flaenoriaeth i Gyngor Sir y Fflint ac mae atal yr Hawl i Brynu yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cadw ein stoc tai cyngor presennol ac at y dyfodol. Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter; “Mae atal yr Hawl i Brynu yn hanfodol er mwyn cymaint o gyfleoedd tai â phosibl i bob unigolyn a theulu sy’n byw ar hyd a lled Sir y Fflint, a bydd yn atgyfnerthu ein cynlluniau yn y dyfodol er mwyn parhau i foderneiddio a buddsoddi mewn tai Cyngor a gwasanaethau ar gyfer ein tenantiaid.”