Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad

Published: 02/06/2014

Mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer yn apelio am wirfoddolwyr i helpu i gael gwared ar rywogaethau anfrodorol ymledol o Afon Dyfrdwy a’i hisafonydd. Mae digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn ei ail flwyddyn ac mae’n mynd i’r afael â phlanhigion ac anifeiliaid anfrodorol ymledol, megis clymog Japan, jac y neidiwr a’r cranc manegog Chineaidd. Bydd y rhaglen gydgysylltiedig yn dechrau gyda lansiad cyhoeddus ar ddydd Sadwrn 28 Mehefin ym Mharc Gwledig Ty Mawr yng Nghefn Mawr, Wrecsam gydag amrywiol ddigwyddiadau’n cael eu cynnal, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri yr holl ffordd drwodd i’w haber, tan 31 Gorffennaf. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ar draws y rhanbarth i helpu i gael gwared â phlanhigion anfrodorol ymledol o Afon Dyfrdwy a’i hisafonydd ac i gofnodi ardaloedd ble maen nhw’n bla. Mae’r rhywogaethau y byddir yn mynd i’r afael â nhw yn rhywogaethau estron, y daethpwyd â nhw i’r Deyrnas Unedig naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol, sy’n gallu achosi problemau mawr i fywyd gwyllt brodorol, yn ogystal â chael effeithiau eraill megis gwneud glannau afonydd yn fwy tueddol i gael eu herydu, sy’n gallu arwain at lifogydd. Mae partneriaeth o sefydliadau o Gymru a Lloegr, yn cynnwys Gwasanaethau Cefn Gwlad pum awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect DINNS, Cadwch Gymru’n Daclus, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd, Sw Gaer, Record, Cofnod a Cyfoeth Naturiol Cymru â rhan mewn trefnu’r digwyddiad. Meddai Lyn Byrne, Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol y Ddyfrdwy: “Mae digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn fenter gyffrous a welodd lawer iawn o gyfranogiad gan gymunedau lleol yn 2013. Eleni rydym yn anelu at wneud y digwyddiad yn hyd yn oed yn fwy a gwell na chynt trwy gynnwys mwy o bobl mewn mwy o ardaloedd.” Meddair Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gyfle gwych inni i gyd gael effaith wirioneddol gadarnhaol ar Afon Dyfrdwy a’n hamgylchedd lleol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan a chael gwybod a mynd draw i’w digwyddiad agosaf a helpu.” Os hoffech chi neu’ch grwp fwrw iddi o ddifrif gyda ffustio jac y neidiwr neu golbio’r clymog, neu os ydych yn ffansïo ysbïo ar y tresmaswyr estron a chofnodi eu lleoliadau, cysylltwch â Sarah Slater yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 703263 neu sarah.slater@flintshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Meryl Norris, swyddog prosiect DINNS yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01352 755472 neu e-bostiwch merylnorris@wildlifetrustswales.org