Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth y Llyfrgell

Published: 10/03/2016

Fel rhan o’r dathliadau i agor canolfan Llyfrgell newydd yng nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Sir y Fflint gystadleuaeth i gynllunio Cerdyn Aelodaeth y Llyfrgell newydd. Gwahoddwyd tair ysgol gynradd leol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, sef - Queensferry, Sandycroft a Phenarlâg. Cafwyd 68 o gynigion a dewiswyd un o bob ysgol i’w roi ar y rhestr fer. Lexi Jones o Ysgol Bentref Penarlâg oedd yn fuddugol ac mae Lexi i’w gweld yn y llun gyda’i cherdyn aelodaeth buddugol, ac Ian Bancroft, Prif Swyddog Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint a gyflwynodd docynnau llyfr i Lexi fel gwobr.