Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiectau diogelwch ffyrdd newydd

Published: 20/04/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi 11 o brosiectau diogelwch ffyrdd newydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn gyfredol. Maer prosiectau yn cynnwys 6 gorchymyn parcio diwygiedig, a fydd yn lleihau parcio anystyriol a thagfeydd mewn rhai ardaloedd allweddol yn y Sir a darparu 5 arwydd rhybudd sy’n cael eu cynnau gan gerbydau wedi eu gweithredu ar ffyrdd lle mae cyflymder gormodol wedi cael ei gofnodi. Maer safleoedd wedi cael eu blaenoriaethu yn dilyn adolygiad or holl safleoedd posibl ac yn enwedig y rhai lle mae ceisiadau ar gyfer gosod y nodweddion diogelwch hyn wedi eu derbyn. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rwyf yn falch o allu ymrwymo gwariant y Cyngor i gyflwynor nodweddion diogelwch priffyrdd allweddol hyn. Mae pob un or cynlluniau wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio system sgorio y cytunwyd arni i sicrhau ein bod yn gosod y nodweddion ar y ffyrdd sydd eu hangen fwyaf. Lleoliadaur diwygiadau gorchmynion traffig yw: Ffordd Wrecsam/Stryd Brook, Yr Wyddgrug Ysgol Abermorddu Ffordd Penarlâg/Queensway, Yr Hob Lôn Fagl, Yr Hob Ffordd Penymynydd, Penymynydd Liverpool Road, Bwcle Bydd yr arwyddion sy’n cael eu cynnau gan gerbydau yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol: Pen gorllewinol Ffynongroyw Ffordd Penarlâg, Abermorddu A5104 Treuddyn Liverpool Road, Bwcle Priffordd, Brychdyn