Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter iach gyntaf iach ym meithrinfa Sir y Fflint

Published: 09/06/2016

Meithrinfa Ddydd Rocking Horse ym Mrychdyn yw’r feithrinfa gyntaf yn Sir y Fflint i gwblhau Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy. Mae hwn yn gynllun cenedlaethol a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn cael ei gydlynu yn Sir y Fflint fel estyniad i’r Cynllun Ysgolion Iach. Mae lleoliadau cyn ysgol yn gweithio i hyrwyddo a gwarchod pob agwedd o iechyd gan gynnwys gweithgarwch corfforol, iechyd maeth a cheg, emosiynol a chymdeithasol, diogelwch, hylendid a lles eu staff. Gan weithio drwy 7 thema wahanol, mae staff yn y Rocking Horse wedi dangos sut maent yn darparu cyfleoedd i fod mor iach ag y gallant, ac yn ogystal, sut maent yn addysgu’r plant ynghylch beth sydd ei angen i fod yn iach. Fe wnaethant fodlonir meini prawf ar gyfer pob un or themâu trwy ddarparu tystiolaeth eu bod yn ystyried iechyd a lles ym mhopeth a wnânt gan gynnwys eu polisïau, arweinyddiaeth, ethos ar amgylchedd a thrwy eu teuluoedd ar gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae llawer o arferion iechyd yn cael eu sefydlu yn ifanc, gan olygu bod amgylchedd y blynyddoedd cynnar yn amser delfrydol i ddylanwadu ar iechyd plentyn. Mae gan sefydliadau blynyddoedd cynnar y potensial i wneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles plant yn eu gofal ac mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn eu helpu i wneud hyn. Mae staff a rheolwyr wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol ir cynllun a thrwy fod y cyntaf yn yr ardal i’w gwblhau, maen dangos eu hangerdd am les y plant.” Yn y llun or chwith mae Evelyn Aindow, Rheolwr, a Claire Davies a gydlynodd y cynllun, gyda staff a phlant o Feithrinfa Ddydd Rocking Horse.