Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau pen-blwydd Esther yn 100 oed!

Published: 20/06/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i ddathlu pen-blwydd arbennig. Mwynhaodd Esther Critchley ei phen-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Gofal Preswyl Croes Atti yn y Fflint gydag ymweliad gan y Cynghorydd Peter Curtis. Ganwyd Esther yn Fferm Mynydd Pen Ucha, Sychdyn ar 13 Mehefin 1916. Yn ferch canol i John a Mary Morrison, fe fynychodd Ysgol Sychdyn cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg yr Wyddgrug (yr Alyn). Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, aeth Esther i wasanaethu yn Southport am 3 blynedd, ac yna aeth i Bontblyddyn ac yna i Neuadd Cornist yn y Fflint i weithio ir teulu Summers. Priododd Ralph Blackwell yn Ebrill 1940 cyn mynd i weithio i Dr Ross yn y Fflint, a chafodd ei merch Maureen ei geni ym 1944. Un uchafbwynt ym mywyd Esther oedd cyfarfod y Frenhines ym 1953 a oedd yn ymweld â Phafiliwn yr Eisteddfod yn y Rhyl ar ran y wladwriaeth. Doedd hi ddim yn meddwl bryd hynny y byddain cael cerdyn gan y Frenhines ar ei Phen-blwydd yn 100 oed! Bu farw ei gwr cyntaf ym 1988 ac fe briododd Donald Critchley ym 1992, gan hedfan dramor am y tro cyntaf yn ei bywyd i fynd ar wyliau. Roedd Esther yn byw yn Sychdyn gydol ei hoes tan 2009, pan aeth i fyw yng Nghroes Atti lle mae hi wedi bod yn hapus ac yn derbyn gofal da ers hynny. Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, gyda Esther Critchley.