Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i holl Ysgolion Uwchradd Sir y Fflint drwy ennill Gwobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau

Published: 13/07/2016

Mae Ysgolion Uwchradd ledled Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau Sorted Sir y Fflint. Cyflwynodd Nicky Evans, Arweinydd Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Sorted Sir y Fflint, y Wobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau yng Nghyngor Sir y Fflint. Dywedodd: “Mae’r Wobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau yn safon uchelgeisiol i ysgolion sy’n eu cefnogi i fynd i’r afael â materion cyffuriau ac alcohol drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth barhaus fel sesiynau ABCH (addysg bersonol a chymdeithasol), sesiynau galw heibio cyson yn ystod amser cinio, addysg cyfoedion, ymyrraeth wedi’i thargedu ac ymyrraeth unigol. “Mae ar flaen y gad wrth wneud newid go iawn. Gydag athrawon a disgyblion yn cymryd rhan, mae gan ysgolion Ymwybyddiaeth o Gyffuriau bolisi, addysg a chefnogaeth cyffuriau ac alcohol well i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae gan ysgolion Ymwybyddiaeth o Gyffuriau weithiwr cyswllt Sorted sy’n gyfrifol am gydlynu a gweithredu ymyrraeth atal cyffuriau ac alcohol yn eu hysgolion penodedig.” Roedd Claire Broad, Ymgynghorydd Ysgolion Iach Sir y Fflint ac Ymarferwyr Addysg Sorted yno i longyfarch yr Ysgolion Uwchradd ar eu gwaith caled au hymroddiad wrth ennill y wobr. Yn y flwyddyn academaidd hon, gwnaed adolygiad or polisi camddefnyddio sylweddau presennol ar y cyd gan Ysgolion Iach Sir y Fflint a Sorted. Mae pob un o’r tair ysgol uwchradd ar ddeg wedi llwyddo i gyrraedd y safon ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015-2016. Y rhain yw Ysgol Alun, yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Maes Garmon, Argoed, Elfed, John Summers, Penarlâg, St David’s, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon ac Ysgol Uwchradd Castell Alun yn ogystal ag Ysgol Maes Hyfryd. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Llongyfarchiadau ir ysgolion sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safon. Camp a hanner yw bod pob un on 13 ysgol wedi cyrraedd y safon hwn o gymharu â saith 2 flynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc yn cael addysg gyffuriau well yn ein hysgolion, gyda pholisi gwell, staff sy’n fwy hyderus a phroses effeithiol o ymyrryd yn gynnar. Y nod yw newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl am ac yn ymddwyn o amgylch cyffuriau ac alcohol wrth i bobl ifanc ganolbwyntio ar y modd y mae sylweddau’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd a datblygu sgiliau amddiffynnol. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglyn â Sorted Sir y Fflint, yna cysylltwch â’r tîm ar 01352 703490. Chwith ir dde: Laura Roberts - Flintshire Sorted, Claire Morter - Flintshire Sorted, Jade Williams - Elfed High school, Nicky Evans - Flintshire Sorted, Dawn Ashton- Flintshire Sorted, Holly Macfarlane - St Davids High school, Colin Ellis - Alun School, Jayne Fisher - Flint High school, Annette Connah - Hawarden High school, Jullie Parry -Hawarden High school Ysgolian eraill: Argoed, Holywell, John Summers, Connahs Quay, Maes Hyfryd, Castell Alun, St Richard Gwyn Catholic High