Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digonedd o anturiaethau yn sioe’r sir

Published: 29/07/2016

Digonedd o anturiaethau yn sioe’r sir Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer Sioe Amaethyddol Flynyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint eleni ar ddydd Iau, Awst 18fed, a bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal i ddathlur Flwyddyn o Antur. Bydd trac beics BMX, heriau beicio, cerdded Nordig a chwrs rhwystrau ymysg y llu o weithgareddau a fydd ar gael ym mhabell y Cynghorau, sydd iw gweld wrth ymyl prif gylch y sioe. Bydd y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn trefnu gweithgareddau hwyl i’r teulu a bydd yna gyfle i gael tynnu eich llun mewn canw yn erbyn cefndir lliwgar. Bydd yna amrywiaeth o arddangosfeydd a gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd Planhigfa Triffordd o Sir y Fflint hefyd ar faes y sioe gydau harddangosfeydd blodau. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Rydym wrth ein bodd i fod yn gallu arddangos ychydig on gwaith i ymwelwyr unwaith eto eleni. “Mae Croeso Cymru wedi dynodi 2016 yn Flwyddyn Antur, ac mae’r ddau gyngor yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y nifer o weithgareddau y gall pobl gymryd rhan ynddynt yn ein rhanbarth ac annog pobl i fynd i grwydro’r ddwy sir a chael eu hantur eu hunain. “Byddem yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gennym i’w gynnig”. Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, dyma’r seithfed flwyddyn y mae’r ddau Gyngor wedi bod yn bresennol ar faes y sioe. “Yn hanesyddol, Sioe Dinbych a Fflint yw un or digwyddiadau pwysicaf a mwyaf poblogaidd ar y calendr amaethyddol ac fe ddaw’r torfeydd o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt. Maen llwyfan gwych i ni hyrwyddo ein cynghorau ac rydym wrth ein bodd yn cefnogi trefnwyr y sioe eto eleni. I gael rhagor o wybodaeth am y sioe, ewch i: www.denbighandflintshow.com