Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Published: 12/08/2016

Mae Sir y Fflint wedi croesawu ffigyrau creu swyddi diweddaraf Llywodraeth Cymru yn 8 Ardal Fenter Cymru. Yn ystod 2015/16, cafodd 1,960 o swyddi eu creu, eu diogelu neu eu cynorthwyo yn erbyn targed o rhwng 1,400 a 1,900 ar draws yr ardaloedd. Ers iddynt gael eu creu yn 2012/13, mae £177m o fuddsoddiad o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus hefyd wedi’i ddiogelu ac mae dros 400 o fusnesau wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a Glannau Dyfrdwy, yn enwedig. Ers creu Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ym mis Ebrill 2012, mae 2,036 o swyddi wedi cael eu creu a 3,150 o swyddi wedi cael eu diogelu. Mae hyn oherwydd bod Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy – cyflawniad aruthrol.” Yn ychwanegol at hyn, maer Rhaglenni Twf Sgiliau a Datblygur Gweithlu wedi darparu cymorth ariannol uniongyrchol o dros £300,000 i fusnesau yng Nglannau Dyfrdwy i gefnogi anghenion datblygu’r gweithlu. Mae Ardaloedd Menter yn cynnig anogaethau penodol i ddenu busnesau newydd i leoliadau ardderchog yng Nghymru gan ddefnyddio datrysiad penodol ar gyfer y wlad, gyda nod o wella’i heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd. Mae gan bob ardal ei blaenoriaethau ai hamserlenni ei hun, gan ganolbwyntio ar sector targed allweddol - mae Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu uwch.