Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwyddo Llwybr Cysylltu Cymru yn dechrau

Published: 16/09/2016

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Y Fflint wedi dechraur prosiect o arwyddo’r Llwybr Cysylltu Cymru newydd. Mae’r arwyddbost cyntaf, ar ddechraur llwybr ar ochr ddeheuol y bont droed Saltney Ferry wedi cael ei osod. Bydd y gwaith yn parhau i roi arwyddbyst ar hyd y llwybr drwy Saltney, Bretton, Doddlestone, Burton, Yr Hob, Caergwrle, Ffrith, Four Crosses a fydd yn dod i ben yn Llandegla. Mae’r Llwybr Cysylltu Cymru yn cysylltu’r Llwybr Arfordir Cymru gyfan gyda llwybr y Clawdd Offa. Mae’n ddeunaw milltir o hyd, ac mae’r llwybr yn amrywiol iawn, gan ddechrau ar dir fferm llawr gwlad, gan fynd drwy goetir panoramig a gorffen ar weundir uchel trawiadol. Cyflawnwyd y prosiect hwn gyda chymorth Cronfa Cymunedau’r Arfordir. Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd Y Goron. Caiff ei gyflwyno gan Gronfa’r Loteri Fawr ar ran Llywodraeth Y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae’r Llwybr Cysylltu Cymru yn awr yn cysylltu ardaloedd gwledig ar rhai arfordirol, gan wella hawliau tramwy drwy bedair sir ac ar ôl cwblhaur arwyddbyst, bydd yn llwybr newydd gwych i gerddwyr brwdfrydig yn y cefn gwlad. Dywedodd Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint sy’n rhedeg y prosiect: “Rhoddwyd yr arwyddbost cyntaf i wneud i bobl feddwl am Lwybr Arfordir Cymru. Mae un arwyddbost yn dweud Caerdydd 812 milltir. Nid hwn yw’r llwybr uniongyrchol i Gaerdydd fel yr hed y frân, dyna faint o filltiroedd y byddai’n cymryd i chi gerdded arfordir Cymru i gyrraedd Caerdydd. Dywedodd y Cynghorydd Richard Lloyd, Cynghorydd i Saltney Cyffordd yr Wyddgrug: “Mae’n wych bod Llwybr Cysylltu Cymru yn dechrau yn Saltney, ac yn ymgorffori Dolen Cadwyn Saltney yn logo’r llwybr, sydd yn helpu i ddiogelu treftadaeth leol bwysig. Or chwith: Jim Craven (gwirfoddolwr), Stephen Lewis (Ceidwad Cefn Gwlad), Danielle Duncan (gwirfoddolwr) ac Cyng Richard Lloyd