Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynd i’r afael ag eiddo gwag tymor hir
Published: 17/06/2014
Gallai Cyngor Sir y Fflint ddechrau gorfodi gwerthu eiddo preifat os bydd
polisi newydd yn cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (17
Mehefin).
Bydd y Polisi Gwerthu Gorfodol yn golygu y gall y Cyngor ddefnyddior
ddeddfwriaeth i helpu datrys problem eiddo gwag, mewn cyflwr gwael yn y Sir ac
ar yr un pryd adennill dyledion sylweddol heb eu talu.
Maer cyngor yn dilyn y trywydd hwn gan mai ei nod yw lleihau nifer yr eiddo
gwag tymor hir ar draws y sir o’r ffigwr bresennol o 469. Mae Cyngor Sir y
Fflint bob amser wedi rhoi blaenoriaeth ir maes hwn o weithgarwch ac roedd yn
un or Siroedd cyntaf yng Nghymru i gael Swyddog Datblygu Cartrefi Gwag a swm
penodol o arian i gefnogi gwaith adnewyddu ac ailwampio.
Bydd y Polisi Gwerthu Gorfodol yn arf ychwanegol ir rhai a ddefnyddir eisoes,
fel camau gorfodi eraill i wella eiddo ac, mewn rhai achosion, cymorth ariannol
uniongyrchol i berchnogion sy’n dymuno gwella eu heiddo i safon sy’n ddigon da
i’w gosod.
Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, bydd hawl gan y Cyngor i werthu eiddo gwag
tymor hir drwy arwerthiant er mwyn talu dyledion perthnasol, gan yna’i alluogi
i weithio gydar perchennog newydd i sicrhau y bydd yn cael ei breswylio ynddo
eto. Gallair dyledion hyn gynnwys ôl-ddyledion ar dreth y cyngor, taliadau
gofal cymdeithasol ac unrhyw ddyled arall am waith a wnaed ac a ariannwyd gan y
cyngor o ganlyniad i arfer ei rymoedd i atgyweirio neu wella’r eiddo. Yr unig
ffordd y gallai perchennog yr eiddo atal gwerthiant fyddai ad-dalu’r ddyled.
Mae nifer fechan o eiddo ar draws Sir y Fflint ar hyn o bryd, lle y byddai’n
briodol i ddefnyddio’r grym hwn. Dyma eiddo lle mae pob ymyriad arall wedi
methu, oherwydd diffyg cydweithrediad gan y perchnogion ac felly gwerthu
gorfodol yw’r dewis olaf.
Mae un eiddo yn y Sir wedi derbyn taliadau gofal cymdeithasol o fwy na £40,000,
lle mae’r perchennog blaenorol a’r sawl a oedd yn derbyn gofal wedi marw erbyn
hyn. Maer teulu’n amharod i werthur eiddo, gan eu bod yn dymuno byw ynddo,
ond nid ydynt yn gallu fforddio’r gost i’w wneud yn addas i fyw ynddo.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod y Cabinet dros Dai: “Os bydd y
polisi hwn yn cael ei gymeradwyo, gall y Cyngor ddechrau gwneud defnydd unwaith
eto o fwy o eiddo gwag, gyda’r fantais ychwanegol o adennill dyledion. Nid yw
bellach yn dderbyniol i eiddo aros yn wag wrth i’r angen am dai gynyddu. Gyda’r
polisi hwn, gall y Cyngor ddechrau bwrw ymlaen i fynd i’r afael â phroblem
cartrefi gwag ac adennill arian sy’n ddyledus iddo ar yr un pryd.”