Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Nercwys

Published: 13/10/2016

Ar 18 Hydref bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried cynnydd y trafodaethau ynghylch adolygiad Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Nercwys, syn rhan o raglen foderneiddio ysgolion y Cyngor. Ym mis Mehefin penderfynodd y Cabinet y gallai swyddogion gynnal ymgynghoriad sylfaenol ar yr ysgol gan fod nifer o faterion wedi codi sy’n gofyn am adolygiad, gan gynnwys nifer isel y disgyblion a chyflwr yr adeiladau. Mae cyfres o gyfarfodydd wedi eu cynnal gyda llywodraethwyr yr ysgol ar Awdurdod Esgobaethol er mwyn edrych ar yr holl ddewisiadau. Maer llywodraethwyr wedi dweud eu bod yn fodlon ystyried trefniadau ffedereiddio ffurfiol. Yng ngoleuni hyn, mae pob parti yn teimlo y byddain well peidio â chynnal adolygiad am y tro er mwyn rhoi mwy o amser i ni edrych ar ddewisiadau ar gyfer cydweithredu a fyddain cefnogi rhwydwaith ysgol cynaliadwy. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan y Cyngor Sir raglen foderneiddio ysgolion heriol. Maer Cyngor hefyd yn cydnabod bod adolygiadau o’r fath yn heriol ac yn sensitif i bawb dan sylw. Rydym ni’n croesawu parodrwydd y llywodraethwyr i edrych ar ffedereiddio. Rydym ni’n gwybod y gall adolygiadau achosi ansicrwydd yng nghymuned yr ysgol ac felly maen bwysig ein bod ni’n cynorthwyo’r ysgol i sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar barhau i wella’r ddarpariaeth addysg.