Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyniad Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan 2016

Published: 02/11/2016

Rhoddodd chwech o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan ar gyfer Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2016 gyflwyniad disglair ou profiadau. Yn ystod Noson Gyflwyno a gynhaliwyd gan y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, fe siaradodd y myfyrwyr am eu profiadau i gynulleidfa o fyfyrwyr eraill sy’n ystyried gwneud cais am le ar daith gyfnewid 2017. Aeth Kerina Perhat, Cameron Gemmill, Olivia Andringa, Ruth Stubbs, Lola Seddon a Megan Roberts i Japan am bythefnos ddiwedd mis Gorffennaf gan aros efo teuluoedd yn nhrefi Murata, Kawasaki a Zao. Bu iddyn nhw sôn am eu profiadau o fywyd pob dydd yn Japan, gan gynnwys byw efo teulu Japaneaidd, ac am y bwydydd y bu iddyn nhw flasu a’r llefydd y bu iddyn nhw ymweld. Bu iddyn nhw hefyd sôn am groesawu eu cyfeillion o Japan i Sir y Fflint a’u haddysgu am ddiwylliant Cymru, ac am y cyfeillgarwch a grëwyd yn ystod y prosiect cyfnewid pedair wythnos. Meddai’r Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Maer cysylltiadau sydd wedi eu meithrin drwyr prosiect cyfnewid hwn wedi rhoi cyfle ir ddwy wlad ddod at ei gilydd i gyfnewid syniadau ac i ddysgu am fywyd a diwylliant mewn gwlad arall. Maer prosiect cyfnewid ieuenctid wedi bod yn llwyddiant ysgubol i ddatblygu dealltwriaeth a goddefgarwch, yn enwedig o ran y genhedlaeth iau, ac mae hynny’n mynd i fod o fudd i gysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol.” Meddai’r Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o bobl ifanc wedi mwynhau ac elwa ar y profiadau a ddarperir drwy Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint, ac rydw i’n annog pobl eraill i ddysgu mwy am y rhaglen gyffrous hon a sut i gymryd rhan ynddi.” Dangosodd y myfyrwyr luniau ou hymweliadau â Tokyo, beddrodau, mannau o harddwch naturiol a lluniau eraill o’u hanturiaethau niferus, gan gynnwys gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau. Cytunodd y rhieni a groesawodd fyfyrwyr Japaneaidd iw cartrefi fod y profiad hwn yn brofiad unwaith mewn oes ac maen nhwn argymell y rhaglen i unrhyw deulu arall sydd â phlentyn efo diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer prosiect cyfnewid 2017. Maer prosiect cyfnewid wedi ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint ac yn agored i bob myfyriwr sy’n 16-18 oed ar 1 Medi 2016 ac sy’n derbyn addysg lawn amser mewn ysgol neu goleg yn Sir y Fflint. Mae’n rhaid dychwelyd ceisiadau ar gyfer prosiect cyfnewid 2017 erbyn dydd Llun 21 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflenni cais cysylltwch â Karen Jones, Cydlynydd Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan, ar 07759295984 neu karenjones@flintshire.gov.uk. Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis a’r Consort, Mrs Jennifer Curtis gyda fyfyrwyr Sir y Fflint