Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Allwch chi helpu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd?

Published: 20/08/2021

North Wales Together.pngMae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn chwilio am bobl i ymddangos mewn ffilm fer ar gyfer cyflogwyr lleol yng Ngogledd Cymru.

Nod Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yw cefnogi pobl a sefydliadau i sicrhau fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu byw bywyd da. Maent eisiau annog mwy o fusnesau lleol i gyflogi pobl gydag anableddau dysgu ac mae angen pobl leol gydag anableddau dysgu sydd â swyddi sy’n talu i gymryd rhan yn y ffilm, ynghyd â’u rheolwr.

Bydd y ffilm yn dangos bod pobl gydag anableddau dysgu yn gallu gweithio, bod eu cyflogi yn dda ar gyfer busnes ac yn helpu i gael mwy o bobl gydag anableddau dysgu i waith sy’n talu.

Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gais ar ein gwefan yma.

Anfonwch yn ôl i ni erbyn 6 Medi, unai trwy e-bost Learning.Disability.Transformation@flintshire.gov.uk neu i Trawsnewid Anableddau Dysgu, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF

Ariennir y Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu gan Lywodraeth Cymru – i ddarganfod mwy ewch i gogleddcymrugydangilydd.org.