Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabod tîm o Sir y Fflint yn Ngwobrau Rhanbarthol Effeithlonrwydd Ynni Cenedlaethol Cymru 2020/21

Published: 21/09/2021

Perfformiodd tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig Cyngor Sir y Fflint yn dda mewn Gwobrau Rhanbarthol Effeithlonrwydd Ynni, gan gipio pedwar canlyniad rhagorol.

Enillodd y tîm y wobr gyntaf am Ymgyrchydd Gwasanaeth Cwsmeriaid Diamddiffyn Rhanbarthol y Flwyddyn am eu prosiect ‘Cronfa Argyfwng'.  Roedd y prosiect hwn yn cefnogi aelwydydd diamddiffyn a fyddai fel arall wedi cael trafferth gwresogi eu cartrefi.   Bydd y tîm yn parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a grwpiau ynni cymunedol er mwyn annog eraill i efelychu’r gronfa mewn ardaloedd eraill.

Enillodd y tîm yr anrhydeddau canlynol hefyd:

  • Gwobr Prosiect Graddfa Fach Rhanbarthol y Flwyddyn 2020 (Prosiectau o dan 250K) “Contract Cymorth Cartrefi Cynnes” – Cymeradwyaeth Uchel
  • Gwobr Prosiect Graddfa Fawr Rhanbarthol y Flwyddyn 2020 (Prosiectau mwy na 250K) “Ffit i Sir y Fflint” – Cymeradwyaeth Uchel
  • Gwobr Awdurdod Lleol neu Gorff Rhanbarthol y Flwyddyn 2020 – Cymeradwyaeth

Y ‘Contract Cymorth Cartrefi Cynnes’ yw’r contract masnachol cyntaf gyda Wales and West Utilities, ac mae ganddo’r potensial i gefnogi 7,800 o gartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd.

Ariannwyd y prosiect “Ffit i Sir y Fflint” gan y Gronfa Cartrefi Cynnes ac roedd yn cynnwys inswleiddio Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer gan arwain at arbed arian a lleihau carbon deuocsid. 

O ran Gwobr Awdurdod Lleol neu Gorff Rhanbarthol y Flwyddyn 2020, cymeradwywyd Sir y Fflint am yr ymdrechion i gyflawni prosiectau sy’n effeithlon o ran ynni.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

 “Rwyf wrth fy modd o glywed bod Sir y Fflint, unwaith eto, wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y gwobrau hyn.  Mae’r rhain yn brosiectau gwych sy’n gwneud newidiadau ar lawr gwlad i drigolion Sir y Fflint, gan arbed arian a darparu cartrefi cynhesach sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

 “Mae’n gynyddol bwysig fod cartrefi Sir y Fflint yn cael eu gwresogi’n effeithlon.  Nid yn unig mae gwneud y gorau o’n hynni adnewyddadwy yn arbed arian i drigolion Sir y Fflint, ond y mae hefyd yn hwyluso lleihad sylweddol mewn CO2 wrth newid o ddefnyddio olew i wres sydd â ffynhonnell aer."

Enwebodd y tîm Gymdeithas Tai Clwyd Alyn am Wobr Cymdeithas Dai neu Landlord Rhanbarthol y Flwyddyn 2020/21, a chawsant gymeradwyaeth uchel.