Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidiwch â ffonio a gyrru

Published: 09/11/2016

Mae tîm Diogelwch Ar Y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch llym ar fodurwyr syn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru. Cynhelir yr ymgyrch gorfodaeth Cymru Gyfan o ddydd Llun, 7 Tachwedd tan ddydd Sul, 20 Tachwedd, ac mae’n annog holl ddefnyddwyr y ffordd i ‘gadw eu llygaid ar y ffordd’ a pheidio â gadael i’w ffonau dynnu eu sylw. Yn ystod yr ymgyrch, bydd swyddogion yn siarad gyda gyrwyr ynghylch peryglon o ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, a hefyd y peryglon o gael eu sylw wedi ei dynnu pan maent tu ôl y llyw. Bydd swyddogion yn stopio modurwyr sy’n cael eu dal yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru a gall unrhyw droseddwyr ddisgwyl cael dirwy o £100 a thri phwynt ar eu trwydded. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint “Rydym yn cydnabod bod mwyafrif uchel o’r cyhoedd eisiau defnyddior rhwydwaith ffordd i fynd o A i B yn ddiogel, a nid ydynt eisiau bod yn agored i berygl diangen oherwydd gweithredoedd eraill. Wrth yrru cerbyd mae angen gallu gwneud llawer o dasgau, felly mae unrhyw beth arall angen aros nes yr ydym wedi parcion ddiogel neu nes bydd eich taith wedi dod i ben. Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Gall hyd yn oed gyrwyr profiadol a chymwys cael eu sylw wedi’i dynnu yn hawdd a gall diffyg canolbwyntio arwain at ganlyniadau difrifol. Mae ffonau clyfar yn rhan allweddol o fywyd modern, hefyd rydym yn gweld gyrwyr yn cael eu sylw wedi’u tynnu pan maent yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, darllen e-byst neu’n mynd ar y rhyngrwyd. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol bod gan y gweithredoedd hyn yr un perygl a’r un gosb. “Mae ein prif neges yn glir; cadwch eich llygaid ar y ffordd. Gall ddiffyg canolbwyntio wrth yrru fod yn ddinistriol, a dymar rheswm bod swyddogion o’n pedwar heddlu yng Nghymru yn mynd ar batrôl rhagweithiol i dargedu modurwyr sydd yn rhoi defnyddwyr y ffordd mewn perygl yn y modd hwn.” Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch #OOpSnap yn ddiweddar, menter sy’n caniatáu tystiolaeth fideo a ffotograffau gael eu hanfon atom gan bobl sydd wedi tystio unrhyw droseddau gyrru.