Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sefydlu Modelau Darparu Amgen ar gyfer Hamdden; Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd; Arlwyo a Glanhau; a Gofal Dydd Gofal Cymdeithasol a Chyfleoedd Gwaith

Published: 14/12/2016

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi ystyried adroddiad sy’n argymell sefydlu tri Dull Darparu Amgen ar gyfer gwasanaethau. Y cyntaf yw Cymdeithas Budd Cymunedol i ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd o 1 Gorffennaf 2017, yr ail yw Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n gallu masnachu am gontractau allanol i ddarparu Gwasanaethau arlwyo a glanhau o 1 Ebrill 2017, ac yn olaf, cynnig i gontractio gyda sefydliad gyda gwerthoedd cymdeithasol i ddarparu gofal dydd a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu mewn gofal cymdeithasol o 1 Ebrill 2017. Yn ogystal â diogelu gwasanaethau a chadw swyddi, mae’r gwaith ar y cynlluniau gweithredu gan bob un o’r gwasanaethau hyn wedi nodi buddiannau gwirioneddol a gwelliannau i ddarpariaeth gwasanaeth. Yn yr adran Hamdden a Llyfrgelloedd, mae’r cynigion yn dangos, ynghyd â gwneud arbediad o dros £400,000 yn y flwyddyn gyntaf heb effaith sylweddol ar ddarpariaeth gwasanaeth, gall y gwasanaeth a’r Cyngor fuddsoddi oddeutu £1m i wella canolfannau hamdden ac adeiladau llyfrgelloedd. Mae’r cynnig hwn, sef y bydd staff yn berchnogion y cwmni newydd, yn destun pleidlais staff ar 15 Rhagfyr. Mae Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar gyfer Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau yn dangos, ynghyd â gwneud arbediad o dros £100,000 yn y flwyddyn gyntaf, gellir gweithredu contractau glanhau newydd ac mae cynnydd yn y nifer sy’n derbyn prydau ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae cael rhyddid i gontractio gyda sefydliadau allanol i ddarparu gwasanaethau arlwyo a glanhau yn cynyddu rhagolygon incwm a chefnogi datblygiad y busnes yn y dyfodol. Maer contract arfaethedig newydd ar gyfer sefydliad gyda gwerthoedd cymdeithasol i ddarparu gofal dydd anableddau dysgu a chyfleoedd gwaith yn nodi arbedion posibl ym mlwyddyn gyntaf y ddarpariaeth. Mae hefyd yn nodi gwasanaeth gwell ar gyfer defnyddwyr, a fyddai’n derbyn cefnogaeth, i ystod ehangach o gyfleoedd gwaith a darpariaeth gofal dydd mewn dull cydlynol. Mae’r adroddiad yn amlinellu bod prosiect cyfalaf yn awr yn ddichonadwy ar gyfer disodli canolfan ofal dydd Glanrafon a fyddai’n gwneud gwelliant sylweddol i ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gofal dydd. Bydd yr argymhelliad terfynol ar gyfer y contract hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ionawr. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Bydd sefydlu’r sefydliadau hyn yn garreg filltir sylweddol. Mae’r gwaith manwl a wnaed gan y staff yn y gwasanaethau hyn yn dangos fod y cynigion yn sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol ir cyhoedd, ond y gellir cyflawni gwelliannau sylweddol o ran ansawdd y gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr ac ir adeiladau lle y darperir y gwasanaethau hyn. Rwy’n croesawu’r posibilrwydd o fuddsoddiad pellach yn y ddarpariaeth hamdden ac ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu gofal dydd anableddau dysgu.”